Back
Adnoddau sy'n gyfeillgar i bobl niwrowahanol mewn hybiau a llyfrgelloedd
17/3/25

Mae cyfres o adnoddau synhwyraidd i helpu i wneud hybiau a llyfrgelloedd Cyngor Caerdydd yn fwy hygyrch i gwsmeriaid yn ystod eu hymweliad bellach ar gael mewn cyfleusterau ledled y ddinas.

Fel rhan o waith y Cyngor i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n fwy cyfeillgar i bobl niwrowahanol, mae'r gyfres newydd o adnoddau wedi'u casglu i sicrhau bod pobl ag anghenion synhwyraidd yn cael gwell profiad wrth gael mynediad at y cyfleusterau a'r gwasanaethau mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth (Mawrth 17 – 23), mae’r Cyngor yn annog cwsmeriaid i fenthyca’r adnoddau sy’n cynnwys teganau ffidlan, amddiffynwyr clustiau, lampau, ategion cefn a gwyntyllau, rhanwyr desg, trososodiadau lliw, goleuadau ychwanegol, amseryddion a mwy, yn ystod eu hymweliad.

Mae’r adnoddau ar gael o ddesg y dderbynfa ac yn cael eu storio mewn bagiau clir fel bod ymwelwyr yn gallu gweld y cynnwys a theimlo’n hyderus eu bod yn diwallu eu hanghenion cyn eu benthyca. 

Lluniwyd y bagiau gan dîm Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth y Cyngor, Cydweithfa Gymunedol Ieuenctid Caerdydd Scope a'r grŵp Neuro Roots yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd mewn digwyddiad lansio arbennig yn Hyb y Llyfrgell Ganolog. Mae'r bagiau wedi cael eu rhoi gan Scope ac mae'r cynnwys wedi'i ariannu o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Leonora Thomson, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion): "Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r bobl ifanc a helpodd i bacio'r holl adnoddau i'r bagiau sydd wedi'u dosbarthu i hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas, felly gallwn ddiolch iddynt am eu cyfranogiad a'u hymdrechion i ddod ag adnodd mor ddefnyddiol at ei gilydd ar gyfer cwsmeriaid yn ein cymunedau.  Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Scope, ein partner ar y prosiect hwn, am eu hysbrydoliaeth, eu mewnwelediad a'u cefnogaeth sydd wedi gwneud y fenter hon yn bosibl.

"Mae'r holl adnoddau yn y bagiau yno i helpu cwsmeriaid ag anghenion synhwyraidd i deimlo'n fwy cyfforddus pan fyddant yn ymweld â chanolfan neu lyfrgell. 

"Mae Caerdydd ar daith i ddod yn ddinas sy'n fwy cefnogol o bobl niwrowahanol a'u teuluoedd ac rwyf mor falch ein bod yn gallu cynnig yr adnodd hwn i gwsmeriaid, wrth i ni geisio creu mwy o gyfleusterau hygyrch a niwro-gadarnhaol yn y ddinas."

Yn ogystal â bagiau clir gydag adnoddau defnyddiol, mae gan hybiau a llyfrgelloedd hefyd fagiau cefn glas llai sy'n cynnwys adnoddau synhwyraidd y blynyddoedd cynnar i blant iau eu benthyg yn ystod eu hymweliadau. Helpodd rhieni o Raglen Rhianta Cygnet a ddarparwyd gan Rhianta Caerdydd i nodi'r adnoddau a fyddai'n ddefnyddiol i deuluoedd eu benthyca.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomson: "Dim ond un elfen o'n gwaith yw'r adnoddau synhwyraidd i wella ein cyfleusterau ar gyfer cwsmeriaid niwrowahanol. Yn ddiweddar, mae'r gwasanaeth hybiau a llyfrgelloedd wedi hyfforddi Hyrwyddwyr Niwroamrywiaeth i gefnogi ymwelwyr a chydweithwyr niwrowahanol, ac i gefnogi’r gwaith o greu amgylcheddau sy'n gyfeillgar i bobl niwrowahanol yn ein cyfleusterau."