04/03/25
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar ei Gynllun Corfforaethol, gan amlinellu'r blaenoriaethau a'r nodau y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
Mae'r ddogfen yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei weledigaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' ar gyfer Caerdydd, er mwyn gwella bywydau trigolion drwy raglen waith eang.
Bydd y cynllun yn cael ei gymryd i'r Cyngor Llawn ddydd Iau, 6 Mawrth, i'w gymeradwyo.
Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, groesawu'r cynllun gan ddweud ei fod yn rhan hanfodol o ymrwymiad y Cyngor i greu dinas 'gryfach, decach, wyrddach' i'w thrigolion. "Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi wynebu nifer o heriau, ond nid yw ein hymrwymiad i adeiladu Caerdydd wydn erioed wedi gwanhau. Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn nodi llwybr clir tuag at adferiad a thwf, gan sicrhau bod yr holl drigolion yn elwa o'n hymdrechion.
"Rydym yn gwybod bod llawer o waith i'w wneud, ond mae'n rhaid i ni gydnabod yr heriau sy'n wynebu'r ddinas wrth ddangos yr hyn y gallwn ei gyflawni. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn rhaglen uchelgeisiol ond realistig, wedi'i hadeiladu ar ein hymrwymiad i wneud Caerdydd yn ddinas gryfach, decach a gwyrddach."
Dinas Gryfach
Pwysleisiodd y Cynghorydd Thomas bwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn addysg, sgiliau a phrosiectau adfywio mawr i ysgogi creu swyddi a thwf economaidd. "Dros y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn addysg o ansawdd uchel, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo. Byddwn yn cynorthwyo ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed trwy symud cydbwysedd y gofal i helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd."
Dinas Decach
Wrth gyfeirio at yr argyfwng costau byw a'r argyfwng tai, dywedodd y Cynghorydd Thomas, "Byddwn yn cryfhau cymorth i helpu pobl allan o dlodi, gan sicrhau bod trigolion yn gallu cael gafael ar fudd-daliadau, cyflogaeth a chyngor ariannol. Bydd darpariaeth tai fforddiadwy yn parhau, ochr yn ochr â ffocws cryf ar fynd i'r afael â digartrefedd."
Dinas Wyrddach
O ran yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd, nododd y Cynghorydd Thomas, "Bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, adfywio lleol a mannau gwyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol, wrth i ni barhau i gymryd camau beiddgar i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."
Roedd y Cynghorydd Thomas hefyd yn cydnabod y pwysau sylweddol ar gyllidebau a gwasanaethau sy'n wynebu Caerdydd, gan ddweud: "Mae'r galw am wasanaethau'n parhau i gynyddu, ac nid yw'r gost o'u darparu erioed wedi bod yn uwch. Ar yr un pryd, nid yw'r arian sydd ar gael i ni yn cadw i fyny â'r pwysau hyn.
"Eleni, mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus wedi'u cydnabod, sy'n cael ei groesawu'n fawr, gydag arian ychwanegol i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru a'r DU. Ac eto, ar ôl dros ddegawd o gyni, effaith barhaus y pandemig, a'r argyfwng costau byw, ni all ailadeiladu gwasanaethau a diwallu'r galw cynyddol ddigwydd dros nos.
"O ystyried y pwysau sy'n ein hwynebu, bydd angen i ni ailfeddwl a, lle bo angen, ailgynllunio'r ffordd y mae llawer o'n gwasanaethau yn cael eu darparu, gan ganolbwyntio fwyfwy ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ataliol a chydlynol, ar gefnogi twf teg a gwyrdd, ac ar ddefnyddio technoleg i wella mynediad ar gyfer dinasyddion a chynorthwyo ein staff i ddarparu gwasanaethau rhagorol.
"Bydd y flwyddyn i ddod yn heriol, ond mae ein ffocws yn glir. Byddwn yn parhau i ddarparu ar gyfer Caerdydd, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn gryf, bod y rhai mewn angen yn cael cymorth, a bod ein dinas yn gweithio i bawb."
Mae'r Cynllun Corfforaethol ar gael i'w weld yma yn cynnwys y saith Amcan Lles:
1. Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
2. Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn
3. Cefnogi pobl allan o dlodi
4. Cymunedau diogel, hyderus a grymus
5. Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru
6. Caerdydd Un Blaned
7. Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus