Mae cymryd rhan nid yn unig
yn helpu i leihau effaith carbon, ond gall hefyd arbed arian i chi.
Pam atgyweirio?
Mae data diweddar gan
Censuswide yn datgelu y gallai trigolion Caerdydd fod wedi gwastraffu hyd at
£132 miliwn yn 2024 yn unig drwy ddisodli eitemau y gellid bod wedi'u trwsio.
Ar gyfartaledd, gwariodd pob unigolyn £444 ar ddisodli eitemau a allai fod wedi'u
trwsio.
Prif Ganfyddiadau:
Ymunwch â'r diwylliant
atgyweirio cynyddol:
Digwyddiad Arbennig: Caffi
Trwsio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn,
8 Mawrth yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant o 9.30am tan 1pm, y tu allan i H.
Samuel, ar gyfer digwyddiad caffi trwsio arbennig sy'n canolbwyntio ar
decstilau. Bydd staff o Gaffi Trwsio Cymru a Chyngor Caerdydd yn dangos sut i
drwsio dillad.
Gwasanaethau Atgyweirio
Marchnad Caerdydd
Mae Marchnad Caerdydd yn
cynnig nifer o stondinau sy'n darparu gwasanaethau atgyweirio, gan gynnwys:
Mae siopau eraill ledled y
ddinas hefyd yn cynnig gwasanaethau atgyweirio. Am restr lawn o fanwerthwyr,
ewch i https://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/wythnosatgyweirio/
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff,
Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Yn y byd sydd ohoni, rydym wedi
mynd ychydig yn rhy barod i daflu pethau heb sylweddoli y gallai ateb syml
arbed llawer o arian i ni! Cyn i chi daflu’r eitem sydd wedi torri, beth
am weld a ellir ei atgyweirio? Nid yn unig y bydd eich waled yn diolch i chi,
ond bydd y blaned hefyd! Mae atgyweirio hyd yn oed yn well nag ailgylchu, felly
gadewch i ni roi ail gyfle i'n heitemau cyn ffarwelio â nhw. Gadewch i ni ei
drwsio, nid ei daflu!"
Cymerwch Ran!
Cofleidiwch y diwylliant
atgyweirio ac ymunwch ag Wythnos Atgyweirio Caerdydd i ddysgu sgiliau newydd,
arbed arian, a helpu'r amgylchedd. Gadewch i ni wneud Caerdydd yn ddinas sy'n
gwerthfawrogi trwsio yn lle taflu!
Mae croeso i chi rannu'r
fenter gyffrous hon gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Gyda’n gilydd, gallwn ni
wneud gwahaniaeth!