Back
Caerdydd yn arddangos ymrwymiad i hawl plant i chwarae yn Fforwm Byd-eang Tokyo ar Blant

21/2/2025

Mae Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry, wedi cynrychioli Caerdydd yn y Fforwm Byd-eang ar Blant cyntaf yn Tokyo, gan atgyfnerthu safle'r ddinas fel yr unig un yn y DU i gyflawni statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF.

Roedd y cynulliad rhyngwladol, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Fetropolitanaidd Tokyo, yn canolbwyntio ar fentrau sy'n rhoi lleisiau plant wrth wraidd polisi, gyda phwyslais arbennig ar chwarae a chyfranogi.

Gan roi cyflwyniad cyweirnod o'r enw "Ymgorffori Lleisiau Plant wrth Greu Meysydd Chwarae a Chyfleoedd i Chwarae", tynnodd y Cynghorydd Merry sylw at ddull arloesol Caerdydd o ymgorffori hawl plant i chwarae mewn gwaith cynllunio a pholisi trefol.

Rhannodd Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae Caerdydd, sy'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol asesu a gwella cyfleoedd chwarae, ac arddangos prosiectau lleol llwyddiannus fel:

  • Ymgysylltu â 1,000 o blant wrth lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 15 mlynedd newydd Caerdydd, gan sicrhau bod chwarae'n cael ei flaenoriaethu mewn gwaith datblygu trefol.
  • Creu mannau chwarae wedi'u cynllunio gan blant drwy Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA 2026), gan sicrhau bod datblygiadau newydd yn cynnwys cyfleoedd i chwarae.
  • Mentrau fel Chwarae Stryd, Lonydd Chwarae a Bywiogi Parciau, wedi'u cyd-ddylunio gyda phlant, i drawsnewid Caerdydd yn ddinas well i chwarae ynddi.

Bu'r Cynghorydd Merry hefyd yn ymgysylltu ag arweinwyr ac arbenigwyr byd-eang, gan drafod arferion gorau o ran datblygiad trefol dan arweiniad plant ac eirioli dros chwarae fel hawl sylfaenol. Mae cyfranogiad Caerdydd yn cryfhau ei chydweithrediad rhyngwladol, gan sicrhau bod y ddinas yn parhau i arloesi mewn polisi a dylunio sy'n dda i blant.

Wrth fyfyrio ar yr ymweliad, dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae Caerdydd yn falch o fod y ddinas gyntaf yn y DU i ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, ac mae chwarae yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i hawliau plant. Mae'r fforwm hwn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i rannu ein gwaith ar lwyfan byd-eang a dysgu oddi wrth ddinasoedd sy'n rhannu ein gweledigaeth.

"Rhaid i leisiau plant gael eu hymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel, a bydd Caerdydd yn parhau i arwain y ffordd o ran sicrhau bod chwarae'n cael ei flaenoriaethu mewn gwaith cynllunio, polisi ac ymarfer."

Darparodd y Fforwm Byd-eang Tokyo ar Blant lwyfan i ddinasoedd ledled y byd gyfnewid gwybodaeth, cryfhau partneriaethau, ac ymrwymo i bolisïau sy'n blaenoriaethu anghenion plant. Mae cyfranogiad Caerdydd yn cadarnhau ei henw da fel arweinydd ym maes cynllunio trefol sy'n seiliedig ar hawliau plant ac yn atgyfnerthu ei hymroddiad i adeiladu dinas sy'n chwarae, yn tyfu ac yn ffynnu gyda phlant wrth ei chalon.

I gael mwy o wybodaeth am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch iCaerdydd sy'n Dda i Blant.

Cafodd costau teithio a llety a oedd yn gysylltiedig â'r ymweliad eu talu gan Lywodraeth Fetropolitanaidd Tokyo.