Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn Iwerddon ar 22 Chwefror yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn herio Iwerddon ddydd Sadwrn 22 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 5.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n agor am 12.15pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cynllun beics yn helpu plant mewn teuluoedd incwm isel i ddewis teithio llesol i'r ysgol
Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghaerdydd yn elwa o gynllun newydd sy'n darparu beics wedi'u hailgylchu am ddim.
Mae'r cynllun Beics i Blant yn rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i newid hinsawdd a'i nod yw galluogi mwy o blant i deithio'n llesol i ac o'r ysgol trwy oresgyn y rhwystr o'r gost o brynu beic.
Nid oes angen y beics a roddir i'r cynllun ar y perchnogion mwyach, ond yn hytrach na mynd i wastraff maen nhw'n cael eu hadnewyddu gyda darnau wedi'u hailgylchu, yn barod i'w defnyddio eto.
Ers ei lansio ym mis Medi 2024, mae 72 o ddisgyblion wedi derbyn beic drwy'r cynllun. Mae pob disgybl hefyd yn cael helmed, clo beic, pwmp, hyfforddiant cynnal a chadw beics sylfaenol, a hyfforddiant beicio.
Grantiau cyngor yn helpu gyrwyr tacsi Caerdydd i dorri allyriadau
Os byddwch yn cael tacsi yng Nghaerdydd heddiw, gallai eich taith fod yn lanach ac yn wyrddach oherwydd cynllun gan Gyngor Caerdydd sydd wedi darparu mwy na £200,000 o grantiau i alluogi gyrwyr tacsi'r ddinas i uwchraddio i gerbydau mwy effeithlon o ran tanwydd neu i gerbydau cwbl drydan.
Bob blwyddyn mae gyrrwr tacsi llawn amser arferol yn y DU yn gwneud rhwng 25,000 a 45,000 milltir o yrru1 - yn sylweddol fwy na'r 7,500 milltir2 ar gyfartaledd y mae gyrrwr cyffredin yn y DU yn ei wneud. Mae fflyd Cerbydau Hacni Caerdydd yn cynnwys llawer o gerbydau disel Euro 4 ac Euro 5 hŷn, sy'n golygu bod llawer o'r milltiroedd hynny'n cael effaith negyddol ar y blaned, ac ansawdd aer lleol.
Yn amrywio o £5,000 - £10,000 y cerbyd, mae'r grantiau'n cefnogi gyrwyr i brynu cerbydau Euro 6, sydd yn fwy modern ac effeithlon o ran tanwydd, yn ogystal â cherbydau cwbl drydan.
Mae'r grantiau'n rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i newid yn yr hinsawdd sydd wedi arwain at gyflwyno fferm solar newydd, plannu 100,000 o goed newydd, adeiladu tai cyngor ynni-effeithlon, carbon isel, a gosod rhwydwaith cynyddol o feicffyrdd ar wahân, ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o brosiectau a mentrau eraill.
Dweud eich dweud - Mae Ymarfer Ymgysylltu Pythefnos am Leoedd Diogel i Barcio Beiciau
Mae ymarfer ymgysylltu pythefnos wedi dechrau - gan ofyn i'r holl feicwyr am eu barn ar gyfleusterau diogel i barcio beiciau yn y ddinas.
Mae'r arolwg ar-lein yn gofyn i feicwyr am eu barn ar wahanol atebion a thaliadau posibl am opsiynau parcio diogel. I gymryd rhan, cliciwch yma:
www.caerdydd.gov.uk/parciodiogelifeiciau
Bydd y cynllun newydd yn canolbwyntio ar ganol y ddinas, Cathays, Grangetown a Bae Caerdydd yn y lle cyntaf, ond bwriedir iddo dyfu o ganol y ddinas, tuag allan, i ardaloedd siopa lleol ar draws Caerdydd.
Bydd yr arolwg ar-lein yn cau ar 3 Mawrth, er mwyn sicrhau y gellir cymryd yr holl gamau angenrheidiol i osod cam cyntaf y cynllun yn ystod haf 2025.