Cyhoeddodd y Cynghorydd Leonora Thomson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion, ddechrau cynllun Ffrindiau Gofalgar, a fydd yn dod â gwirfoddolwyr cyfeillio a gofalwyr di-dâl at ei gilydd.
Gwnaeth y Cynghorydd Thomson y cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon yng Nghynulliad Gofalwyr Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth siarad yn y digwyddiad yn Neuadd y Sir, dywedodd y Cynghorydd Thomson fod y cynllun wedi'i greu i roi cyfle i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd gael seibiant ac ychydig o gefnogaeth emosiynol, mewn ymateb i adborth gan y rheiny â chyfrifoldebau gofalu bod eu dyletswyddau yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd a'u lles eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Thomson: “Fe gynhalion ni gynllun peilot llwyddiannus y llynedd gyda 12 gwirfoddolwr a 12 gofalwr di-dâl a oedd yn hynod ddefnyddiol wrth i ni glywed barn y ddau grŵp a chael gwybod am eu profiadau ac am y gwahaniaeth a wnaeth i’w bywydau, er mwyn helpu i lunio'r cynllun newydd hwn.
“Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan mor bwysig yn ein cymdeithas. Maen nhw’n rhoi gofal hanfodol i'w hanwyliaid ac mae'n hollbwysig eu bod nhw eu hunain yn gallu cael cymorth. Felly rwy'n falch iawn o lansio Ffrindiau Gofalgar yn swyddogol, sy'n gam cyffrous ymlaen wrth gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd.”
Gyda chyllid o Gronfa Gymunedol Cymru Gyfan y Loteri Genedlaethol, mae'r fenter newydd yn gydweithrediad rhwng tîm Dinas Gofal Cyngor Caerdydd, Gwasanaethau Byw'n Annibynnol a thîm Gwirfoddoli Cymunedol Gwasanaethau Cymorth Lles Caerdydd sydd wedi'i leoli mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.
Bydd gwirfoddolwyr cyfeillio yn cefnogi gofalwyr di-dâl mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys galwadau ffôn cyfeillgar, cwrdd gartref neu yn y gymuned i roi cymorth wyneb yn wyneb, cynorthwyo gyda thasgau ysgafn yn y cartref neu’r ardd, siopa, neu gyfeirio at wasanaethau eraill a all roi cymorth ychwanegol.
Mae gwirfoddolwyr yn cael gwiriad y GDG a hyfforddiant ynghylch profiadau gofalwyr, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch cyflyrau iechyd hirdymor fel dementia.
Dywedodd gofalwyr di-dâl a oedd yn rhan o'r cynllun peilot: “Gyda gofalu rydych wedi ymgolli cymaint yn y drefn arferol ond mae hwn wedi fy helpu i ddadbacio. Ni'n cael sgwrs, ychydig o jôcs, mae'n rhyddhau emosiynau,” ac, “Mae'r ymweliadau’n rhoi tawelwch meddwl i fi. Galla i eistedd i lawr neu ysgrifennu neu ddarllen llyfr. Am ychydig oriau, mae amser rhydd gen i.
“Dwi'n edrych ymlaen at eu hymweliadau. Maen nhw'n chwa o awyr iach. Maen nhw bob amser yn cyrraedd yn hapus sy'n hyfryd i fi, mae'n llawen iawn.”
Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr cyfeillio: “Mae'n wych gwybod bod galwad ffôn hanner awr bob wythnos yn rhoi cymaint o ryddhad i'r preswylydd ac yn caniatáu iddyn nhw ailosod a gofalu am eu lles eu hunain ochr yn ochr â gofalu am rywun arall.”
Dylai gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a hoffai dderbyn cymorth gan wirfoddolwr cyfeillio, gysylltu â'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ar 02920 234 234 Opsiwn 2.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio eu sgiliau i wneud gwahaniaeth i ofalwr di-dâl yn y ddinas gysylltu â'r Gwasanaeth Cymorth Lles drwy ffonio 029 2087 1071 neu e-bostio cyfeilliogofalwyr@caerdydd.gov.uk