Back
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2025

11.2.25

Mae awduron a darlunwyr plant arobryn, gan gynnwys Emma Carroll, Jack Meggitt-Phillips, Sioned Wyn Roberts, Rob Biddulph a Maz Evans, yn barod i ddiddanu ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd eleni.

Mae'r ŵyl, a gynhelir rhwng dydd Llun, 24 Mawrth a dydd Sul, 30 Mawrth yn dechrau gydag wythnos o ddigwyddiadau am ddim i ysgolion y ddinas. Bydd digwyddiadau â thocynnau ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul ar agor i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae clywed yn uniongyrchol gan yr awduron a'r darlunwyr sy'n creu eu hoff straeon, yn ffordd wych o gyffroi plant a'u cael i ymgysylltu â darllen.

"P'un a yw eich plant newydd ddechrau ymddiddori mewn llyfrau neu'n ddarllenwyr brwd eisoes, mae gan yr ŵyl rywbeth i bawb, a phwy a ŵyr, efallai y bydd yn ysbrydoli rhai ohonyn nhw i roi pen ar bapur eu hunain ryw ddiwrnod hyd yn oed."

Bydd digwyddiadau gŵyl Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys Theatr Reardon Smith a Chanolfan Ddarganfod Clore yn Amgueddfa Cymru, yr Is-grofft yng Nghastell Caerdydd, Canolfan Addysg Parc Bute, ac Amgueddfa Caerdydd yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais.

Mae rhagor o ddigwyddiadau'n dal i gael eu hychwanegu at y rhestr gyffrous ond mae tocynnau ar werth nawr. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.gwylllenplantcaerdydd.com