07/02/25
Mae'r arolwg Music Fans' Voice cyntaf erioed wedi lansio, gan roi llais uniongyrchol i fynychwyr gigs wrth lunio dyfodol cerddoriaeth fyw yn y DU.
Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ddweud eu dweud am ddyfodol cerddoriaeth fyw, a chael eu clywed ar bynciau sy'n amrywio o brisiau tocynnau deinamig i sut maen nhw'n penderfynu pa sioeau i fynd iddyn nhw.
Comisiynwyd arolwg Music Fans' Voice gan Gyngor Caerdydd, Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, Maer Llundain, Awdurdod Cyfun Dinas-ranbarth Lerpwl, Awdurdod Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr, Awdurdod Cyfun Tees Valley, Cyngor Dinas Belfast a Dinas Gerdd Glasgow.
Mae'r arolwg yn adeiladu ar argymhelliad gan Bwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Senedd y DU ar gyfer Adolygiad dan Arweiniad Cefnogwyr o gerddoriaeth fyw ac electronig, fel y digwyddodd ym mhêl-droed.
Dyma gyfle i gefnogwyr cerddoriaeth dynnu sylw at ba feysydd sydd bwysicaf iddynt. Bydd canfyddiadau'n rhoi cynrychiolaeth sydd wedi'i gyrru gan ddata i gefnogwyr, gan helpu i lywio penderfyniadau yn y Llywodraeth, y diwydiant cerddoriaeth a dinas-ranbarthau ledled y DU ar sut i gefnogi pob maes cerddoriaeth fyw, gwella profiad y gynulleidfa a diogelu ein lleoliadau cerddoriaeth fyw.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae gwerth diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd cerddoriaeth fyw yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Caerdydd, ond nid yw cerddoriaeth yn ddim heb y bobl sy'n prynu tocynnau gigs ac yn cefnogi eu lleoliadau lleol, felly mae'n bwysig iawn bod eu lleisiau'n helpu i lunio'r dyfodol hwnnw.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cerddoriaeth fyw ar draws y DU yn wynebu heriau sylweddol. Trwy rannu eu barn yn yr arolwg hwn, gall cefnogwyr cerddoriaeth Caerdydd ein helpu ni, a'n hawdurdodau lleol partner ledled y DU, i ddeall yn well sut y gallwn helpu i sicrhau dyfodol bywiog a chynaliadwy i gerddoriaeth yng Nghaerdydd.
Dolen Gwefan: