Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Seremoni Genedlaethol yng Nghymru i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost
Bore ddoe yng Nghaerdydd, daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol at ei gilydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Mae'r coffâd hwn yng Nghymru yn anrhydeddu'r miliynau a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau dilynol ledled y byd.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Dros Ddyfodol Gwell' ac mae'n digwydd ar yr un diwrnod â 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Bosnia.
Yn ystod Seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd y bore yma, ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, â'r Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk, i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr pob hil-laddiad.
Ysgol Uwchradd Willows yn ennill canmoliaeth gadarnhaol gan Estyn
Mae Ysgol Uwchradd Willows yn Nhremorfa wedi cael ei chanmol gan Estyn yn ystod arolygiad diweddar, gyda chanmoliaeth yn cael ei rhoi i gymuned groesawgar yr ysgol, ei hymrwymiad i amrywiaeth a'i ffocws ar greu amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Yn ei adroddiad, cydnabu Estyn nifer o uchafbwyntiau allweddol, gan gynnwys;
Gweledigaeth a Gwerthoedd: Mae Ysgol Uwchradd Willows yn meithrin diwylliant lle mae disgyblion yn "perthyn, yn credu, ac yn cyflawni." Gwelir y weledigaeth hon yn y berthynas gref rhwng disgyblion a staff a'r disgwyliadau uchel ar gyfer ymgysylltu ac ymddygiad.
Ethos Cadarnhaol: Mae amgylchedd cynhwysol yr ysgol yn sicrhau bod staff, disgyblion, rhieni ac ymwelwyr yn teimlo bod croeso iddynt. Mae diwylliant diogelu cryf yn cyfrannu at ymdeimlad o ddiogelwch ymhlith y rhan fwyaf o ddisgyblion.
Llwyddiant presenoldeb: Mae strategaethau clir ar gyfer monitro a chefnogi presenoldeb wedi arwain at gyfraddau gwell, yn enwedig ymhlith disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Cwricwlwm Amrywiol: Mae cwricwlwm yr ysgol yn pwysleisio dealltwriaeth o amrywiaeth a diwylliannau eraill. Mae ymdrechion i wella sgiliau darllen wedi dangos canlyniadau cadarnhaol, gyda disgyblion yn gyffredinol yn gwneud cynnydd da ar draws pynciau.
Mae ehangu Ysgol Mynydd Bychan yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i'r Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd wedi dangos ei ymrwymiad clir tuag at y Gymraeg drwy ehangu ymhellach ei ddarpariaeth ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2031 y Cyngor yn amlinellu ymrwymiadau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chryfhau dyhead Caerdydd i fod yn ddinas wirioneddol ddwyieithog.
Ehangu Ysgol Mynydd Bychan yw'r cynnydd Cymraeg diweddaraf yn narpariaeth addysg Gymraeg Caerdydd, gan fynd â chyfanswm y lleoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a deuol i 6,370, sydd ar gael ar draws y brifddinas.
Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2025 ar agor nawr
Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2025.
Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 91 o ddosbarthiadau meithrin mewn 87 o ysgolion ledled y ddinas, gan gynnwys tair ysgol sydd â chynnig dwy ffrwd. Anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau sef dydd Llun 24 Chwefror 2025 am y siawns orau o gael cynnig lle meithrin o'u dewis.
I wneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol gymunedol ewch i Derbyniadau i ysgolion meithrin (caerdydd.gov.uk). Gall teuluoedd sy'n ffafrio lle dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd ffydd wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hyn.