Back
Seremoni Genedlaethol yng Nghymru i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost

27/01/25

Y bore yma yng Nghaerdydd, daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol at ei gilydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Mae'r coffâd hwn yng Nghymru yn anrhydeddu'r miliynau a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau dilynol ledled y byd.

A person standing at a podiumDescription automatically generated

Arglwydd Faer, Y Gwir Anrhydeddus y Cynghorydd Helen Lloyd Jones

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Dros Ddyfodol Gwell' ac mae'n digwydd ar yr un diwrnod â 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Bosnia.

Yn ystod Seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd y bore yma, ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, â'r Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk, i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr pob hil-laddiad.

A person standing at a podiumDescription automatically generated

Arweinydd Cyngor Caerdydd, Cyng Huw Thomas

Wrth fyfyrio ar y coffâd, dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Heddiw, fe wnaethom ymgynnull yn y Deml Heddwch mewn undod a chydsafiad, gan gadarnhau ein hymrwymiad i wrthsefyll gwahaniaethu a chasineb ar bob ffurf. Wrth nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Bosnia, rydym yn sicrhau bod lleisiau'r goroeswyr yn parhau i gael eu clywed ac nad yw'r gwersi sydd i'w dysgu o'u profiadau byth yn cael eu colli na'u hanghofio."

Mewn datganiad o ymrwymiad, dywedodd yr Arglwydd Faer, Y Gwir Anrhydeddus y Cynghorydd Helen Lloyd Jones:  "Rydym ni o'r farn bod yn rhaid i'r Holocost gael lle parhaol yng nghof cyfunol ein cenedl. Rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall achosion yr Holocost ac yn myfyrio ar ei ganlyniadau. Rydym yn addo cofio dioddefwyr erledigaeth y Natsïaid a phob hil-laddiad."

A person standing at a podiumDescription automatically generated

Eluned Morgan, Dywedodd y Prif Weinidog

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, mae'n bwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad diwyro i'r rhai a fu farw bod yn rhaid i ni sicrhau nad yw'r gweithredoedd erchyll hyn byth yn digwydd eto.

"Roedd yn anrhydedd darllen o ddyddiadur Anne Frank, y mae ei hetifeddiaeth yn parhau i ledaenu neges o oddefgarwch i bobl o bob oed, yng Nghymru ac ar draws y byd."

An old person standing at a podiumDescription automatically generated

Goroeswr yr Holocost Eva Clarke, a anwyd yng ngwersyll crynhoi Mauthausen

Ymhlith eraill a fynychodd y gwasanaeth coffa oedd Goroeswr yr Holocost Eva Clarke, a anwyd yng ngwersyll crynhoi Mauthausen ac y bu farw 15 o'i pherthnasau yn Auschwitz-Birkenau; Safet Vukalić, Mwslim Bosniaidd o Prijedor a oroesodd hil-laddiad a glanhau ethnig; Abi Carter, Cyd-gadeirydd Elusen Cofio Srebrenica; Isaac Blake, aelod o Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani; ynghyd â chynrychiolwyr Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Pride Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei goffáu bob blwyddyn ar 27 Ionawr, y diwrnod y rhyddhawyd Gwersyll Crynhoi Auschwitz ym 1945.  Fel rhan o nodi'r achlysur, bydd Castell Caerdydd, Castell Coch, y Senedd, ac adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays wedi'u goleuo'n borffor heno.

Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i gynnau cannwyll a'i gosod yn ddiogel yn eu ffenestr am 8pm heno i gymryd rhan yn nefod Goleuo'r Tywyllwch, moment genedlaethol ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost. 

Bydd recordiad o Seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cenedlaethol Cymru 2025 ar gael ar  sianel YouTube Cyngor Caerdydd  yn y dyddiau wythnosau.