Back
Y Diweddariad: 21 Ionawr 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Ysgol Uwchradd Fitzalan yn rhagori yn ei harolwg Estyn diweddaraf
  • Cynlluniau atyniad newydd a gwella'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
  • Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth 5 Mlynedd Uchelgeisiol i Foderneiddio'r Ystâd a Rhoi Hwb o £10m i Dderbyniadau Cyfalaf
  • Man chwarae newydd ar thema gemau a phosau ar gyfer y Sblot

 

Ysgol Uwchradd Fitzalan yn rhagori yn ei harolwg Estyn diweddaraf

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi derbyn cydnabyddiaeth glodfawr yn ei harolwg diweddaraf a gynhaliwyd gan Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod gwaith yr ysgol yn seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, arweinyddiaeth gref, hunanwerthuso myfyriol, a chysylltiadau agos â'i chymuned leol.

Mae'r arolwg yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i feithrin amgylchedd hynod ofalgar a chynhwysol lle galluogir cyflawniadau uchel i'w chorff amrywiol o fyfyrwyr.

Mae'r adroddiad yn dathlu llwyddiant yr ysgol wrth feithrin diwylliant sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, tegwch, a dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd.  Mae'r ethos cynhwysol hwn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu yng nghymuned yr ysgol.

Darllenwch fwy yma

 

Trefnu'r trawsnewid: Bydd Topgolf yn sbarduno cyfnod newydd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, tra bo'r cyngor yn mynd i'r afael ag uwchraddio parcio a'r glannau

Gallai atyniad golff mawr newydd fod yn dod i Bentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh) Caerdydd cyn bo hir. Bydd cynigion i ddod â lleoliad Topgolf i hen safle Toys R Us, a oedd wedi'i glustnodi ar gyfer Felodrome newydd yn flaenorol, yn cael eu hystyried yr wythnos nesaf.

Mae atyniadau Topgolf yn cynnig gemau golff uwch-dechnoleg y gall pawb eu mwynhau, ynghyd â bwyd a diod, mannau taro pob tywydd, a cherddoriaeth. Mae'r cwmni adloniant chwaraeon rhyngwladol blaenllaw, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu mewn pedwar lleoliad yn unig yn y Deyrnas Unedig, yn cynllunio buddsoddiad sylweddol yn PChRh Caerdydd.

Bydd y Cabinet yn cael ei argymell i lunio Cytundeb Opsiwn gyda Topgolf ar gyfer hen safle Toys R Us. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai gan Topgolf 18 mis i sicrhau caniatâd cynllunio a dechrau prydles, gan ddod â'r lleoliad adloniant golff i Gaerdydd o bosibl.

Mae adroddiad y PChRh i Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 23 Ionawr, hefyd yn datgelu bod y cyngor yn ceisio mynd i'r afael â gwelliannau eraill yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys adfer mynediad i'r glannau trwy gyflwyno cynlluniau clir ar gyfer llwybr pren PChRh, sydd wedi bod ar gau ar sail diogelwch ers sawl blwyddyn.

Yn ogystal, cynigir datrysiad parcio dros dro, gan greu tua 400 o leoedd parcio newydd i liniaru tagfeydd a phroblemau parcio yn ystod oriau brig. Mae'r cyngor yn bwriadu cyfarfod â phreswylwyr lleol yn fuan i ymgysylltu'n uniongyrchol ar y cynlluniau hyn.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn Datgelu Strategaeth 5 Mlynedd Uchelgeisiol i Foderneiddio'r Ystâd a Rhoi Hwb o £10m i Dderbyniadau Cyfalaf

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio strategaeth eiddo 5 mlynedd newydd feiddgar gyda'r nod o greu portffolio eiddo 'Mannau Effeithlon, Dyfodol Cynaliadwy' erbyn 2030.

Mae'r strategaeth yn cyd-fynd ag agenda bolisi 'Cryfach, Gwyrddach, Tecach' y cyngor, y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, a Chaerdydd Un Blaned.

Nod y strategaeth yw moderneiddio'r ystâd, cynyddu incwm, a lleihau ôl troed carbon adeiladau a thir sy'n eiddo i'r cyngor drwy ganolbwyntio ar bum maes allweddol hyd at 2030:

Lleihau carbon: 

Torri effaith carbon ystâd y cyngor gan 20% yn unol â'r Strategaeth Un Blaned.

Ad-drefnu'r ystâd: 

Gwella effeithlonrwydd y portffolio eiddo a lleihau costau rhedeg gan £600,000.

Cydymffurfiaeth statudol: 

Cyflawni a chynnal lefelau cydymffurfio o 80% neu uwch ar draws yr Ystâd.

Gwaredu eiddo: 

Gwerthu eiddo anhanfodol i godi £10m.

Incwm masnachol: 

Cynyddu incwm eiddo lesddaliadol gan £700,000 ac ystyried gwerthu eiddo sy'n tanberfformio.

Dros y ddegawd ddiwethaf, bu'n rhaid i'r cyngor arbed mwy na £210m gyda phwysau ariannol yn cynyddu bob blwyddyn. Mae angen atebion arloesol i helpu i ariannu gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, addysg a thai ac mae'r cyngor yn edrych ar sut y gall ddefnyddio ei bortffolio eiddo i helpu i wneud hynny, naill ai drwy werthu neu leihau costau cynnal a chadw a rhedeg.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Caerdydd yn rheoli 300 o eiddo gweithredol rhydd-ddaliadol, gan gynnwys ysgolion, lleoliadau digwyddiadau, depos, swyddfeydd a chyfleusterau chwaraeon, sy'n costio tua £40m y flwyddyn. Yn ogystal, mae'r cyngor yn prydlesu 420 eiddo i grwpiau a sefydliadau cymunedol, sy'n cynhyrchu £4m o incwm bob blwyddyn.

Darllenwch fwy yma

 

Man chwarae newydd ar thema gemau a phosau ar gyfer y Sblot

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu man chwarae newydd ar thema gemau a phosau yn y Sblot yr wythnos nesaf.

Fel rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor, a chyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd y gwaith o ddarparu'r maes chwarae newydd ym Mharc y Sblot yn dechrau ddydd Llun, 27 Ionawr a disgwylir iddo bara 14 wythnos. 

Mae'r rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau adfywio a nodwyd gan gynghorwyr ward, fel cynrychiolwyr o'u cymunedau, ac yn darparu projectau adfywio ledled y ddinas, yn amrywio o barciau newydd a gwelliannau i strydoedd, i ddiogelwch cymunedol.

Cwblhawyd cynllun maes chwarae'r Sblot gan ystyried barn y gymuned leol ar yr hyn yr oeddent am ei weld yn y parc. Mae'r ardal yn cynnwys cyfarpar chwarae ar gyfer plant bach, plant iau a phobl ifanc yn ogystal â chyfarpar chwarae hygyrch ac ardaloedd chwarae naturiol.

Darllenwch fwy yma