Fel rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor, a chyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd y gwaith o ddarparu'r maes chwarae newydd ym Mharc y Sblot yn dechrau ddydd Llun, 27 Ionawr a disgwylir iddo bara 14 wythnos.
Mae’r rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau adfywio a nodwyd gan gynghorwyr ward, fel cynrychiolwyr o'u cymunedau, ac yn darparu projectau adfywio ledled y ddinas, yn amrywio o barciau newydd a gwelliannau i strydoedd, i ddiogelwch cymunedol.
Cwblhawyd cynllun maes chwarae’r Sblot gan ystyried
barn y gymuned leol ar yr hyn yr oeddent am ei weld yn y parc. Mae’r ardal yn
cynnwys cyfarpar chwarae ar gyfer plant bach, plant iau a phobl ifanc yn
ogystal â chyfarpar chwarae hygyrch ac ardaloedd chwarae naturiol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: "Rwy'n falch o weld y gwaith yn dechrau ar y cynllun hwn - mae'n ddyluniad gwych, llawn hwyl.
"Bydd y maes chwarae newydd yn darparu amgylchedd bywiog a chynhwysol i blant o bob oed a gallu ei fwynhau, a fydd, rwy'n siŵr, yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol."