21/1/12025
Mae Cyngor Caerdydd wedi dangos ei ymrwymiad clir tuag at y Gymraeg drwy ehangu ymhellach ei ddarpariaeth ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2031 y Cyngor yn amlinellu ymrwymiadau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chryfhau dyhead Caerdydd i fod yn ddinas wirioneddol ddwyieithog.
Ehangu Ysgol Mynydd Bychan yw'r cynnydd Cymraeg diweddaraf yn narpariaeth addysg Gymraeg Caerdydd, gan fynd â chyfanswm y lleoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a deuol i 6,370, sydd ar gael ar draws y brifddinas.
Mae'r symud hwn yn rhan o gynlluniau adnewyddu a gwella'r Cyngori ad-drefnu pedair ysgol gynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.
Mae hyn yn cynnwys ysgol gynradd newydd ei sefydlu o'r enw Ysgol Gynradd Fairoak sy'n dwyn ynghyd ddisgyblion, staff a chymunedau o Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Gynradd Gladstone. Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnwys adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle mwy a gwaith ailwampio helaeth sy'n cyflwyno cyfleoedd newydd i'r ysgol, gan gynnwys lleoedd meithrin newydd.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae gweledigaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' Caerdydd yn blaenoriaethu plant a phobl ifanc, gan gynnwys ymrwymiadau i ysgolion bro a hyrwyddo dwyieithrwydd, yn unol â tharged Cymraeg 2050.
"Mae'r cynlluniau hyn wedi dwyn ymlaen buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol ac mae ehangu Ysgol Mynydd Bychan yn nodi cam arall tuag at ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau bod mwy o blant yn gallu mynychu eu hysgol leol."
O fis Medi 2025 bydd yr ysgol, sydd wedi bod ar ei safle presennol ar Heol Seland Newydd ers 1994, yn ehangu i gynnig 60 o leoedd ym mhob grp blwyddyn, gyda chyfanswm o 420 o leoedd cyfrwng Cymraeg gan gynnwys cynnig meithrinfa ran-amser â lle i 96 o blant yn yr ysgol. Fel rhan o'r gwaith ehangu hwn, bydd yr ysgol yn adleoli i safle wedi'i addasu a'i adnewyddu yn Ysgol Gynradd Allensbank bresennol.
Bydd y cynigion yn golygu buddsoddiad o £7.6 miliwn ar draws y pedwar safle ac maent wedi'u cynllunio i wella cyfleoedd dysgu a chefnogi ysgolion, wrth helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Mrs Glesni Lloyd, sydd newydd ei phenodi yn Bennaeth Ysgol Mynydd Bychan: "Fel cymuned ysgol, rydym wedi cyffroi am y cyfle i groesawu mwy o blant a'u teuluoedd i Ysgol Mynydd Bychan. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob teulu yn y gymuned yn ymwybodol o fanteision addysg cyfrwng Cymraeg, a sut mae rhoi i'w plant yr iaith Gymraeg yn caniatáu iddynt dyfu a ffynnu fel dysgwyr dwyieithog ac amlieithog galluog.
"Wrth i'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg barhau i gynyddu, rydym yn falch o chwarae ein rhan i ddiwallu'r angen hwn. Wrth i ni gychwyn ar y bennod newydd hon, edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant hirsefydlog a gwreiddiau dwfn yr ysgol yn y gymuned, gan sicrhau bod Ysgol Mynydd Bychan yn parhau i fod yn rhan werthfawr ac annatod o'r ardal y mae'n ei gwasanaethu."
Nododd Estyn yn ystod arolygiad diweddaraf yr ysgol (Rhagfyr 2023) fod "Ysgol Mynydd Bychan yn gymuned gynhwysol a chefnogol dros ben, sy'n hyrwyddo ethos gofalgar yn llwyddiannus. Mae perthnasoedd gwaith clòs a thwymgalon yn bodoli rhwng disgyblion a staff, sy'n meithrin awyrgylch o ddysgu brwd ac ymdeimlad cadarn o berthnasedd i deulu'r ysgol."