17/01/25
Bydd Topgolf yn sbarduno cyfnod newydd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, tra bo'r cyngor yn mynd i'r afael ag uwchraddio parcio a'r glannau
Gallai atyniad golff mawr newydd fod yn dod i Bentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh) Caerdydd cyn bo hir. Bydd cynigion i ddod â lleoliad Topgolf i hen safle Toys R Us, a oedd wedi'i glustnodi ar gyfer Felodrome newydd yn flaenorol, yn cael eu hystyried yr wythnos nesaf.
Mae atyniadau Topgolf yn cynnig gemau golff uwch-dechnoleg y gall pawb eu mwynhau, ynghyd â bwyd a diod, mannau taro pob tywydd, a cherddoriaeth. Mae'r cwmni adloniant chwaraeon rhyngwladol blaenllaw, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu mewn pedwar lleoliad yn unig yn y Deyrnas Unedig, yn cynllunio buddsoddiad sylweddol yn PChRh Caerdydd.
Bydd y Cabinet yn cael ei argymell i lunio Cytundeb Opsiwn gyda Topgolf ar gyfer hen safle Toys R Us. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai gan Topgolf 18 mis i sicrhau caniatâd cynllunio a dechrau prydles, gan ddod â'r lleoliad adloniant golff i Gaerdydd o bosibl.
Mae adroddiad y PChRh i Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 23 Ionawr, hefyd yn datgelu bod y cyngor yn ceisio mynd i'r afael â gwelliannau eraill yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys adfer mynediad i'r glannau trwy gyflwyno cynlluniau clir ar gyfer llwybr pren PChRh, sydd wedi bod ar gau ar sail diogelwch ers sawl blwyddyn.
Yn ogystal, cynigir datrysiad parcio dros dro, gan greu tua 400 o leoedd parcio newydd i liniaru tagfeydd a phroblemau parcio yn ystod oriau brig. Mae'r cyngor yn bwriadu cyfarfod â phreswylwyr lleol yn fuan i ymgysylltu'n uniongyrchol ar y cynlluniau hyn.
Llwybr Pren
O ran y llwybr pren, mae'r adroddiad i'r Cabinet yn dangos sut mae'r Cyngor yn cynnig:
Yn y tymor hwy, y cynnig ar gyfer yr ardaloedd sydd yn berchen i'r Cyngor yw creu promenâd ar ochr y tir ar hyd y glannau. Byddai hyn yn rhan o waith ehangach i ddatblygu tir gwag ar hyn o bryd yn y PChRh, gan ddatblygwyr wedi eu penodi gan y Cyngor, Orion.
Daw'r cynigion yn dilyn cyflwyno sawl cais cynllunio gan Orion yr haf diwethaf. Yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio, bydd y cynlluniau yn y pen draw yn arwain at adeiladu dros 1,000 o gartrefi newydd yn yr ardal, gan gwblhau'r datblygiad.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae rhoi hwb i'r economi a darparu mwy o swyddi i bobl leol drwy sefydlu Bae Caerdydd fel cyrchfan ymwelwyr blaenllaw yn y DU yn rhan allweddol o'n gweledigaeth ar gyfer dinas Gryfach, Tecach, Gwyrddach.
"Mae ein datblygwyr penodedig eisoes yn datblygu'n dda gyda chynlluniau i greu ardal breswyl newydd fywiog ac o ansawdd uchel ar dir sydd wedi bod yn wag a heb ei ddatblygu ers blynyddoedd lawer.
"Yn y cyfamser, nod ein cynllun parcio dros dro a'r gwaith arfaethedig i ail-agor llwybr y glannau yw sicrhau bod cynnydd didrafferth yn parhau, tra hefyd yn sicrhau gwelliannau amgylcheddol tymor byr pwysig i breswylwyr sydd eisoes yn byw yn yr ardal.
"Yn olaf, mae'r buddsoddiad arfaethedig gan Topgolf, yn creu eu hatyniad cyntaf yng Nghymru, fel rhan o'r uwchgynllun ehangach ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, hefyd i'w groesawu."
Parcio Ceir
Mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu datrysiad parcio ceir hirdymor ar gyfer seilwaith chwaraeon a hamdden y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae rhwymedigaethau prydles a thrwydded presennol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddarparu o leiaf 600 o leoedd parcio ceir. Ar hyn o bryd darperir hyn yn y Pwll Rhyngwladol a'r Arena Iâ, gyda hen faes parcio Toys R Us, yn darparu lleoedd ychwanegol yn ystod digwyddiadau. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn ymwybodol bod parcio ar gyfer digwyddiadau yn y PChRh ar ei uchaf ar oddeutu 1,200 o leoedd.
Mae astudiaeth dichonoldeb ariannol wedi cadarnhau nad yw'r achos busnes dros Faes Parcio Aml-lawr yn fforddiadwy ar hyn o bryd. Er bod datrysiad hirdymor fforddiadwy yn cael ei nodi, cynigir strategaeth parcio dros dro, gan ddefnyddio tir heb ei ddatblygu i ddarparu dros 1,000 o leoedd parcio ceir, byddai hyn yn golygu:
Mae trosglwyddo maes parcio'r Pwll Rhyngwladol yn cyflawni rhwymedigaeth 'codi a symud' gydag Orion a byddai'n galluogi'r tir hwn i gael ei dynnu i lawr i'w ddatblygu. Yn y cyfamser, byddai creu'r maes parcio dros dro newydd yn arwain at welliant amgylcheddol sylweddol i'r safle, gan gynnwys cael gwared ar fyrddau a ffensys heras di-raen presennol, a fyddai'n cael eu disodli gan ffensys pen-glin o amgylch y safle; clirio a lefelu'r safle; a gosod deunydd craidd caled drosto.
Topgolf
Mae atyniadau Topgolf yn cyfuno gemau golff uwch-dechnoleg y gall pawb eu mwynhau, ynghyd â bwyd a diod, mannau taro pob tywydd, a cherddoriaeth.
Ar hyn o bryd dim ond mewn pedwar lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae'r cwmni adloniant chwaraeon yn gweithredu ac maent yn cynnig buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
Mae'r Cyngor yn cynnig ymrwymo i Gytundeb Opsiwn 18 mis gyda Topgolf, yn amodol ar gynllunio, ar gyfer safle'r hen siop Toys R Us.
Felodrom
I ddechrau, roedd safle Toys R Us wedi'i glustnodi ar gyfer Felodrom newydd i ryddhau tir ym Mharc Maendy ar gyfer Ysgol Uwchradd newydd. Ond, mae'r Cyngor yn deall y gallai safle mwy addas nawr fod ar gael ar gyfer cyflwyno'r ysgol sy'n osgoi'r angen i adleoli felodrom Maendy ac felly'n rhyddhau safle Toys R Us ar gyfer datblygiad arall. Bydd adroddiad ar wahân sy'n mynd i'r Cabinet ddydd Iau, 23 Ionawr, yn ymdrin â'r agweddau Addysg.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cwrdd ar 23 Ionawr i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gweddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio o 2pm ar y diwrnod yma.
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Economi a Diwylliant yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 21 Ionawr.Bydd recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma.