Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Cynllun ailgylchu 'Sachau Didoli' Caerdydd yn cychwyn ar y cam cyflwyno terfynol
Bydd cam cyflwyno terfynol o gynllun ailgylchu 'sachau didoli' newydd yng Nghaerdydd yn dechrau ar 20 Ionawr, a fydd yn ymestyn y cynllun i 36,400 o gartrefi.
O'r dyddiad hwn, bydd trigolion nad ydynt yn byw mewn fflatiau pwrpasol ac nad ydynt eto wedi ymuno â'r cynllun yn dechrau derbyn eu cynwysyddion ailgylchu newydd yn barod ar gyfer y casgliadau cyntaf ar 4 Mawrth.
O 20 Ionawr, bydd trigolion Butetown, Treganna, Creigiau, Cyncoed, y Tyllgoed, Llanisien, Llanrhymni, Pentref Llaneirwg a Glan yr Afon yn derbyn:
Ynghyd â'r cynwysyddion newydd, bydd preswylwyr hefyd yn derbyn llythyr eglurhaol, llyfryn manwl a thaflen wybodaeth 'canllaw cyflym' i'w helpu i ddeall y cynllun a gwybod ble i roi eu gwastraff ailgylchadwy.
Mae'r cynllun 'sachau didoli' newydd eisoes wedi'i gyflwyno i filoedd o eiddo ledled Caerdydd, gan wella ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd yn sylweddol.
Mae'r manteision a welwyd yn sgil y cynllun newydd yn cynnwys:
Ysgol Gynradd Stacey yn cael adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn
Mae Ysgol Gynradd Stacey yn Adamsdown, wedi cael ei chanmol am ei hamgylchedd meithringar, ei harweinyddiaeth gref, a'i ffocws ar wella canlyniadau disgyblion yn dilyn ei harolygiad diweddar gan Estyn.
Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i ddarparu amgylchedd dysgu croesawgar, deniadol a chynhwysol sy'n cefnogi pob disgybl.
Mae Estyn yn canmol Ysgol Gynradd Stacey am greu cymuned ysgol digynnwrf a chadarnhaol lle mae disgyblion yn elwa o berthynas gref gydag oedolion. Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn blaenoriaethu datblygu'r cwricwlwm ac wedi gweithredu dull cyson o wella sgiliau llafaredd, sydd wedi cael ei gydnabod fel cryfder nodedig.
Mae athrawon yn yr ysgol yn cynllunio cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod disgyblion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi rhai meysydd i'w gwella o ran addysgu mathemateg a sgiliau dysgu annibynnol, yn enwedig ar gyfer disgyblion iau.
Mae cryfderau allweddol yn cynnwys:
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymgysylltiad cadarnhaol rhieni ym mywyd yr ysgol ac ymdrechion y staff i sicrhau bod Ysgol Gynradd Stacey yn lle croesawgar a chynhwysol i bawb.
Cynlluniau adleoli ar gyfer Ysgol Gynradd Lansdowne
Lluniwyd cynigion i adleoli Ysgol Gynradd Lansdowne mewn ymateb i ddirywiad adeiladau'r ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi'i graddio'n 'D' o ran cyflwr, sy'n nodi bod yr adeiladau Fictoraidd rhestredig Gradd II ar y cam 'diwedd oes'.
Yn ystod y misoedd diwethaf, er gwaethaf mesurau lliniaru, bu nifer cynyddol o faterion yn ymwneud â chyflwr yr adeiladau, gyda rhai yn galw am atgyweiriadau sylweddol i gynnal ei weithrediad diogel.
Mae'r adeiladau wedi bod yn destun arolygon manwl ac yn cael eu monitro'n ofalus bob dydd, gyda chymorth uwch yn cael ei ddyrannu i'r ysgol. Er ei fod yn cael ei ystyried yn ddiogel ar hyn o bryd, mae'r pennaeth a'r staff dan bwysau sylweddol i reoli materion parhaus sy'n ymwneud â'r adeiladau.
Byddai angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar ehangder y gwaith sydd ei angen ar yr adeiladau statws Gradd II a byddai angen mynd i'r afael â materion strwythurol wrth gadw nodweddion treftadaeth pwrpasol yr adeilad. Felly, mae angen bwrw ymlaen ag adleoli arfaethedig yr ysgol fel yr unig opsiwn ymarferol.
Mae nifer o opsiynau adleoli wedi eu harchwilio, gan ystyried y pellter y byddai angen i deuluoedd deithio. Yn dilyn arfarniad o'r opsiwn, nodwyd mai'r safle newydd arfaethedig oedd y mwyaf priodol gan ei fod yn nalgylch Ysgol Gynradd Lansdowne, lai na hanner milltir o'r lleoliad presennol, ac mae ganddo'r lle i ddarparu ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff mewn un lle.
Cynllun Datblygu Gwyrdd Uchelgeisiol Caerdydd i Greu 32,300 o Swyddi a 26,400 o Gartrefi erbyn 2036 yn Agosáu at Gael ei Gymeradwyo
Bydd cynllun datblygu newydd ar gyfer y ddinas yn creu dros 32,000 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036.
Mae'r broses o fabwysiadu Cynllun Datblygu Newydd bellach yn cyrraedd ei gamau terfynol, gyda bwriad i'r 'Cynllun Adneuo' neu'r cynllun llawn gael ei drafod a'i gytuno gan Gabinet Cyngor Caerdydd cyn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn i'w gymeradwyo.
Uchafbwyntiau allweddol y 'Cynllun Adneuo' yw:
Diwallu Anghenion y Dyfodol: Creu 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd i ddarparu ar gyfer twf ym mhoblogaeth yn y ddinas.
Cartrefi Newydd: Yn ogystal â'r safleoedd sydd eisoes â chaniatâd cynllunio neu sydd wedi'u clustnodi i'w datblygu ar y safleoedd strategol yn y CDLl presennol, bydd tai newydd yn cael eu codi ar safleoedd tir llwyd yng nghanol y ddinas, yn Nociau Caerdydd ac yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd hyn yn rhoi rhaniad cyffredinol o 50:50 rhwng defnyddio safleoedd datblygu maes glas a rhai tir llwyd. Bydd 25% o'r holl gartrefi newydd o dan y cynllun yn rai fforddiadwy, gan ddarparu rhwng 5,000 a 6,000 o gartrefi newydd fforddiadwy erbyn 2036.
Swyddi Newydd: Mae'r 'Cynllun Adneuo' yn cefnogi Strategaeth Economaidd y Cyngor, gan gynnig amrywiaeth a dewis o gyfleoedd cyflogaeth newydd drwy ddiogelu safleoedd cyflogaeth sy'n bod eisoes yn y CDLl presennol, tra'n cyflwyno safleoedd newydd ym Mharth Canolog Caerdydd, Basn y Rhath, i'r gogledd o Gyffordd 33, gogledd-orllewin Caerdydd, Parc Caerdydd a safleoedd eraill.
Creu Cymdogaethau Cynaliadwy: Sicrhau bod holl ddatblygiadau'r dyfodol yn ddatblygiadau defnydd cymysg, wedi'u cynllunio'n dda, i greu amgylcheddau diogel, cynhwysol, hygyrch ac iach i bobl fyw ynddynt. Mae'r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn gwella ansawdd bywyd drwy gefnogi canolfannau presennol, darparu cartrefi fforddiadwy, tra'n sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu darparu law yn llaw â datblygiadau newydd.
Trafnidiaeth Gynaliadwy a Theithio Llesol: Mae'n hanfodol bod unrhyw gynllun newydd ar gyfer twf ar gyfer y ddinas yn cyd-fynd yn llwyr â blaenoriaeth y cyngor i annog pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, i wneud pobl yn llai dibynnol ar eu ceir preifat. Y nod yw sicrhau bod 75% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud ar droed, drwy feicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030 trwy fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth i wneud teithio cynaliadwy yn opsiwn mwy deniadol i'r cyhoedd ei ddefnyddio.
Ymateb i Newid yn yr Hinsawdd: Mae'r 'Cynllun Adneuo' yn cyd-fynd â'r Strategaeth Un Blaned i ddarparu datblygiadau carbon isel ac adeiladau ynni effeithlon, yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy i ddatblygiadau newydd ac atal datblygiadau mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd.
Sicrhau budd net mewn bioamrywiaeth a sicrhau gwydnwch ecosystemau: Nod y 'Cynllun Adneuo' yw sicrhau bod pob datblygiad yn cynnal ac yn sicrhau enillion net mewn bioamrywiaeth ac yn hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.
Diogelu Amgylchedd Caerdydd: Gwarchod safleoedd maes glas i'r gogledd o'r M4, ynghyd ag ardaloedd eraill o gefn gwlad ar draws y ddinas.
Polisi Newydd a Chryfach mewn Meysydd Allweddol: Mae rhain wedi cael sylw yn y 'Cynllun Adneuo', sy'n sicrhau ein bod yn manteisio ar yr holl feysydd polisi a deddfwriaeth newydd sydd wedi dod i fodolaeth ers mabwysiadu'r CDLl presennol yn y 'Cynllun Adneuo'.