16/1/2025
Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi derbyn cydnabyddiaeth glodfawr yn ei harolwg diweddaraf a gynhaliwyd gan Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn nodi bod gwaith yr ysgol yn seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, arweinyddiaeth gref, hunanwerthuso myfyriol, a chysylltiadau agos â'i chymuned leol.
Mae'r arolwg yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i feithrin amgylchedd hynod ofalgar a chynhwysol lle galluogir cyflawniadau uchel i'w chorff amrywiol o fyfyrwyr.
Mae'r adroddiad yn dathlu llwyddiant yr ysgol wrth feithrin diwylliant sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, tegwch, a dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. Mae'r ethos cynhwysol hwn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu yng nghymuned yr ysgol.
Uchafbwyntiau Allweddol o'r Adroddiad:
Dywedodd y Pennaeth, Adam Lear: "Mae Fitzalan yn ysgol ragorol sy'n gadael argraff barhaol ar bawb sy'n croesi ei throthwy. Mae ein cymuned ysgol fywiog ac amrywiol yn meithrin ymdeimlad o berthyn i ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach fel ei gilydd."
"Rydym wrth ein bodd fod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniadau ac ymrwymiad rhagorol ein cymuned wych. Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol, sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu'r safonau uchaf o addysg, gofal, cefnogaeth ac arweiniad i'n disgyblion. Yn Fitzalan, dim ond y gorau sy'n gwneud y tro.
"Estynnaf longyfarchiadau gwresog i bawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd Fitzalan. Gyda'n gilydd, rydym yn dathlu'r llwyddiant hwn ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cyflawniadau hyn, gan barhau i ddysgu a thyfu wrth i ni ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth i bob disgybl, gan sicrhau y gallant wireddu eu llawn botensial."
Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Cerys Furlong: "Rydym yn hynod falch fod Estyn wedi cydnabod perfformiad gwych Ysgol Uwchradd Fitzalan. Mae hyn yn dangos ein bod yn parhau i osod dyheadau a safonau uchel ar gyfer disgyblion, gan eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod, ac mae'n cadarnhau bod ein disgyblion yn parhau i ffynnu yng nghymuned ysgol gynhwysol Fitzalan."
Mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi dwy astudiaeth achos arfer gorau yn tynnu sylw at ei gwaith eithriadol gydag arweinyddiaeth yn sicrhau atebolrwydd, dysgu proffesiynol, a chynwysoldeb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn un o ysgolion uwchradd mwyaf a mwyaf amrywiol Caerdydd a dylai staff, y disgyblion a'r gymuned deimlo'n falch o'r adroddiad hwn. Mae Estyn wedi cydnabod yn glir eu hymrwymiad i greu amgylchedd meithringar a chynhwysol i bob disgybl. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ymroddiad y staff a gwytnwch a chyflawniadau eu myfyrwyr.
"Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion ei chymuned ac rwy'n siŵr y bydd yr ysgol yn gyffrous i barhau i adeiladu ar ei chryfderau, yn enwedig wrth wella sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm."
Ar adeg yr arolwg, roedd gan Ysgol Uwchradd Fizalan 1,830 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 356 yn y chweched dosbarth. Mae 36.6% o'i disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 9.3% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol i 24.7%.