Back
Eicon Cerddoriaeth Ed Sheeran yn rhoi hwb i addysg gerddoriaeth ieuenctid lleol gydag ymweliad annisgwyl i lansio sefydl

10/1/2025

Syfrdanodd Ed Sheeran bobl ifanc o bedwar sefydliad yng Nghaerdydd pan aeth ar ymweliad gyflym o'r ddinas i lansio ei sefydliad newydd, gan alw yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn y Sblot, a'r prosiect ieuenctid, Grassroots, yng nghanol y ddinas.

A person standing in a room with a white boardDescription automatically generated

Yng nghwmni ei bartner cyfansoddi caneuon hirsefydlog a Llysgennad Aloud, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, Amy Wadge, gan adael llwybr o ysbrydoliaeth a chyffro yn ei sgil, cychwynnodd Ed y daith annisgwyl gydag ymddangosiad arbennig yn ystod gwasanaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan. Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion acOnly Boys Aloud, sydd wedi gweithio gyda'r ysgol ac Amy yn ystod prosiect ysgrifennu caneuon yn 2020.

Daeth yr ymweliad i ben yn drawiadol gydag Ed ynperfformio dwy gân ar y llwyfanac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau iddo yn ystod sesiwn holi ac ateb bywiog.

A person playing a guitar on a stage with a crowd of peopleDescription automatically generated

O'r fan honno, aeth Ed ac Amy i Ganolfan Ieuenctid Eastmoors, lle gwnaethant gyfarfod â myfyrwyr cerddoriaeth y Ministry of Life, darpariaeth amgen o gyfleoedd cerddoriaeth a'r cyfryngau anffurfiol i bobl ifanc sydd wedi symud i ffwrdd o addysg prif ffrwd.

Eisteddodd Ed gyda staff y prosiect a thrafod y rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu ag addysg gerddoriaeth cyn cerdded i mewn ar 35 o bobl ifanc wedi'u syfrdanu, ac ymuno â nhw mewn jam. Cafodd hefyd wledd o berfformiadau anhygoel gan ddoniau ifanc lleol, gan gynnwys Jessika Kay a Kors.

Dywedodd un myfyriwr MOL, Ryan o'r Sblot "Alla i ddim credu'r peth. Ed Sheeran yw hwn, yn Eastmoors. Bydda i'n dweud wrth fy wyrion am hyn pan dwi'n hŷn."

A group of people playing instrumentsDescription automatically generated

Cam olaf y daith oedd prosiect Grassroots Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, lle cysylltwyd ag aelodau'r tîm a chyfranogwyr Sound Progression, elusen gerddoriaeth ieuenctid leol sy'n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd sy'n darparu addysg gerddoriaeth am ddim ledled y ddinas. Rhoddwyd taith dywys i Ed ac Amy o'r stiwdios cerddoriaeth a'r mannau amrywiol a chawsant gyfle i fwynhau perfformiadau byrfyfyr yn cynnwys 15 o gerddorion ifanc talentog.

Dywedodd sylfaenydd Sound Progression, Paul Lyons, "Wrth i bob drws gael ei agor, cafodd Ed ei gyfarch gan bobl ifanc a oedd yn brysur yn creu cerddoriaeth nad oeddent yn disgwyl ei weld. Roedd y sioc ar eu hwynebau yn amhrisiadwy".

Rhannodd un cyfranogwr eu cyffro: "Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan welais i Ed yn cerdded i mewn. Roedd cael rhywun fel fe yn cymryd yr amser i'n clywed ni'n perfformio yn anhygoel."

Dywedodd rapiwr arall 15 oed o'r Sblot, "Roedd yn anhygoel cwrdd ag un o fy arwyr a rhannu fy ngherddoriaeth gydag ef. Mae'r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i ddal ati."

Roedd yr ymweliad yn nodi lansiad swyddogol Sefydliad Ed Sheeran, menter ledled y DU sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn addysg gerddoriaeth trwy gefnogi ysgolion gwladol a sefydliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, yn enwedig mewn ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol ac wedi'u cynllunio i gefnogi addysg gerddoriaeth ieuenctid ledled y DU drwy greu grantiau, codi ymwybyddiaeth a meithrin cydweithrediadau.

A group of people posing for a photoDescription automatically generated

Wrth siarad am y sefydliad, dywedodd Ed: "Mae addysg gerddoriaeth wedi siapio pwy ydw i. Dwi bob amser wedi mwynhau chwarae cerddoriaeth, ac mae wedi arwain at rai o eiliadau gorau fy mywyd."Mae Sefydliad Ed Sheeran yn ymwneud â chwalu rhwystrau ac agor drysau i ddoniau creadigol."

Fel rhan o don gyntaf y sefydliad o grantiau, derbyniodd pedwar sefydliad o Gaerdydd arian. Mae'r buddiolwyr yn cynnwys Elusen Aloud, Ysgol Uwchradd Fitzalan, a'r Ministry of Life Education, gyda grant aml-flwyddyn sylweddol yn cael ei ddyfarnu i Sound Progression.

Mynegodd Carole Blade, Rheolwr Sound Progression, ei diolchgarwch: "Rydym wrth ein bodd i fod yn brif bartner Cymreig Sefydliad Ed Sheeran. Bydd eu cefnogaeth yn ein galluogi i ehangu ein darpariaeth mynediad agored yng nghanol y ddinas i gynnwys sesiynau penwythnos yn Grassroots a datblygu ein rhaglen berfformio flaenllaw ymhellach. Mae sicrhau tair blynedd o gyllid nid yn unig yn rhoi sefydlogrwydd ond hefyd yn ein galluogi i gynllunio a thyfu ein cynigion mewn cydweithrediad â'r sector cerddoriaeth ehangach y tu hwnt i Gymru."

Bydd MOL Education, sy'n adnabyddus am gynnal Cynhadledd Gerddoriaeth flynyddol Caerdydd, hefyd yn elwa o gyllid Sefydliad ES. Bydd y gefnogaeth yn helpu i ddyrchafu'r digwyddiad i uchelfannau newydd, gyda chynlluniau i ddod â siaradwyr cyffrous y diwydiant, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio i gerddorion ifanc a phobl ifanc creadigol. "Rydym mor ddiolchgar i Sefydliad ES am gysylltu â ni a chynnig cefnogaeth i'n sefydliad. Gofynnon nhw beth oedden ni eisiau a dywedon ni y byddai i Ed gwrdd â'r bobl ifanc yn fwy nag unrhyw swm o arian. Roedden nhw'n gwrando a dyma fe, yma'n jamio gyda'n myfyrwyr. Mae hyn yn golygu'r byd i ni a bydd yn ysbrydoli pobl am flynyddoedd i ddod. Fyddwn ni ddim yn anghofio'r diwrnod yma ar frys" - Zippy - Cyfarwyddwr MOL Education.

Bydd y gefnogaeth gan y sefydliad yn galluogi Elusen Aloud i gyflwyno ymarferion wythnosol Only Boys Aloud yn Ne Cymru. Dywedodd Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud, "Roedd yn hynod gyffrous i aelodau'r côr nid yn unig berfformio ar gyfer, ond i ganu gydag, eicon a cherddor o'r safon yma. Mae cynnig cyfleoedd cyffrous ac unigryw yn rhan o'n haddewid yn Aloud, felly mae profiad ar y raddfa hon yn arbennig iawn i'n haelodau."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc: "Mae Ed yn eicon cerddoriaeth a bydd ei ymweliad annisgwyl a lansio'r sefydliad yn gadael gwaddol yng Nghaerdydd, gan roi ysbrydoliaeth i bobl ifanc y ddinas a'r sîn gerddoriaeth ieuenctid leol ar gyfer dyfodol cerddorol disglair."

Ynglŷn â Sefydliad Ed Sheeran

Wedi'i lansio gyda'r genhadaeth o hyrwyddo cynwysoldeb ac addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel, mae'r sefydliad eisoes wedi ffurfio partneriaeth â 18 o sefydliadau ac ysgolion, gan effeithio'n gadarnhaol ar 12,000 o blant a phobl ifanc. Drwy ddarparu mynediad i offerynnau, creu cyfleoedd perfformio, ac agor llwybrau i mewn i'r diwydiant cerddoriaeth, mae'r sefydliad yn sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i archwilio ei botensial trwy gerddoriaeth.

Yn ogystal, mae'r sefydliad yn eirioli dros newidiadau systemig, gan gynnwys mwy o gydnabyddiaeth o rym trawsnewidiol cerddoriaeth a rôl hanfodol addysgwyr cerddoriaeth wrth lunio bywydau ifanc.

https://edsheeranfoundation.com/