09/01/25
Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y gyllideb, a agorodd heddiw, a fydd yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau cyngor hanfodol yn y ddinas.
Diolch i setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi gweld bwlch cyllidebol rhagamcanol o £60 miliwn yn lleihau i £23.4 miliwn ar gyfer 2025/26.
Er gwaethaf y rhagolygon ariannol gwell hyn, mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant a'r galw cynyddol am wasanaethau, yn golygu bod y gost o ddarparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol a delio â'r argyfwng tai, yn parhau i gynyddu.
Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg o £23.4 miliwn yn y gyllideb, mae'r cyngor yn cynnig cyfuniad o fesurau gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd, rhai newidiadau i'r gwasanaeth, ffioedd a thaliadau cynyddol, a chynnydd yn y dreth gyngor.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion hyn yn agor heddiw, a bydd yn para tan ddydd Mercher, 5 Chwefror 2025. Ynddo, gofynnir i drigolion am eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a blaenoriaethau cyllido.
Mae'r cynigion cyllideb allweddol yn cynnwys:
Yn yr ymgynghoriad, gofynnir i drigolion Caerdydd am eu barn ar gynigion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn, gan gynnwys:
Mae'r cynigion hyn yn rhan o'r ymgynghoriad ac nid ydynt wedi'u cadarnhau eto i'w gweithredu yn 2025. Bydd y penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar ôl ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad a thrafodaethau pellach gan y cyngor.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, wrth bennu eu cyllidebau eleni, wedi dangos eu cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus. Y setliad arfaethedig yw, ac eithrio cyfnod y pandemig, y setliad cyllido mwyaf hael y mae Cyngor Caerdydd wedi'i gael ers 2010.
"O'i gymharu â'n hamcangyfrifon yn gynharach eleni, mae ein bwlch cyllideb wedi gostwng gan bron i £36 miliwn. Serch hynny, ar ôl dros ddegawd o gyni a thwf yn y galw yn uwch na thwf mewn cyllid, ni ellir ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus dros nos ac mae diffyg o £23.4 miliwn ar ôl i ni fynd i'r afael ag ef i gydbwyso'r gyllideb. Bydd hyn yn gofyn am arbedion ac effeithlonrwydd, taliadau uwch am rai gwasanaethau a newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.
"Fel yr ydym wedi gwneud erioed, mae'r cynigion arbedion rydyn ni'n eu cyflwyno yn blaenoriaethu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a sicrhau cyllid teg ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig cynnydd net i ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Yn unol â'n hymrwymiad i flaenoriaethu addysg yng Nghaerdydd, ni fydd targedau arbedion ar gyfer ein hysgolion.
"Rydym yn credu y gellir cyflawni arbedion sylweddol drwy arbedion swyddfa gefn, na fydd yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen. Mae'r rhain yn cyfrannu'r swm mwyaf at bontio'r bwlch yn y gyllideb. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn unig yn ddigon i gau'r bwlch cyllideb cyfan o £23.4 miliwn. O ganlyniad, mae'r Cyngor yn ystyried nifer cyfyngedig o newidiadau i fantoli'r gyllideb ar gyfer 2025/26. Rydym eisiau clywed eich barn ar y cynigion hyn."
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'r galw am wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu oherwydd sawl ffactor. Mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at fwy o bobl yn ddigartref yn y ddinas, o deuluoedd nad ydynt bellach yn gallu fforddio rhenti neu forgeisi i unigolion sengl sy'n wynebu heriau tebyg. Yn ogystal, mae poblogaeth Caerdydd sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o bobl angen ein cefnogaeth bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sydd angen gwasanaethau dementia. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen cymorth arbenigol. Mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol bwysig, ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.
"Mae darparu addysg a gofal cymdeithasol - cefnogi plant, oedolion, a phobl hŷn - yn cyfrif am dros 70% o gyllideb y Cyngor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn wedi codi'n sylweddol.
"Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ers 2022, rydym wedi agor neu ehangu 10 ysgol, wedi adeiladu 900 o dai cyngor newydd gyda chynlluniau ar gyfer 1,900 yn fwy, ac wedi helpu preswylwyr i gael mynediad at dros £52 miliwn mewn budd-daliadau. Rydym hefyd wedi gweithio i adfywio rhannau o'r ddinas ac wedi buddsoddi mewn hybiau a llyfrgelloedd lleol lle gall pobl ddod am help a chyngor.
"Rydym am barhau â'r gwaith pwysig hwn, felly mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y ddadl a'r ymgynghoriad."
Mae manylion llawn yr ymgynghoriad ar gael nawr ar wefan y Cyngor. Bydd copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd, Hybiau ac adeiladau'r cyngor i'r rhai na allant gymryd rhan yn ddigidol, o 13 Ionawr ymlaen.