Back
Annog trigolion Caerdydd i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ledled y ddinas ar y gyllideb

03/01/25

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y gyllideb a fydd yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau hanfodol y cyngor yn y ddinas.

Diolch i setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi gweld bwlch cyllidebol rhagamcanol o £60 miliwn yn lleihau i £23.4 miliwn ar gyfer 2025/26.

Er gwaethaf y rhagolygon ariannol gwell hyn, mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant a'r galw cynyddol am wasanaethau, yn golygu bod y gost o ddarparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol a delio â'r argyfwng tai, yn parhau i gynyddu.

Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg o £23.4 miliwn yn y gyllideb, mae'r cyngor yn cynnig cyfuniad o fesurau gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd, rhai newidiadau i'r gwasanaeth, ffioedd a thaliadau cynyddol, a chynnydd yn y dreth gyngor.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion hyn yn agor ddydd Iau, 9 Ionawr, 2025, ac yn para tan dydd Mercher, Chwefror 5, 2025. Ynddo, gofynnir i drigolion am eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a blaenoriaethau cyllido.

Mae'r cynigion cyllideb allweddol yn cynnwys:

  1. Cynyddu buddsoddiad mewn Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol:
  • £19.8 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion, gan sicrhau nad oes targedau arbedion ar gyfer ysgolion yn 2025/26.
  • £8.8 miliwn yn fwy ar gyfer gwasanaethau addysg ganolog
  • £7.5 miliwn yn fwy ar gyfer gwasanaethau plant.
  • £12.1 miliwn yn fwy ar gyfer gwasanaethau oedolion.

 

  1. Arbedion Effeithlonrwydd:
  • Gostyngiadau sylweddol yn y swyddfa gefn a mabwysiadu technoleg newydd i arbed costau.
  • Gostyngiad wedi'i reoli yn nifer y staff drwy ddiswyddo gwirfoddol.
  • Disgwylir i gyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd wireddu gwerth £11.5 miliwn.

 

  1. Cynnydd Treth Gyngor
  • Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am tua 26% o gyllideb y Cyngor. Mae pob cynnydd o 1% yn cynhyrchu tua £1.9 miliwn. Er nad oes ffigwr wedi'i bennu eto ar gyfer cynnydd treth gyngor, byddai unrhyw arian a godir fel hyn yn gwrthbwyso'r balans gweddilliol.

 

  1. Balans gweddilliol o £11.9 miliwn:
  • Eir i'r afael â hyn trwy ragor o arbedion effeithlonrwydd, newidiadau i wasanaethau, ffioedd uwch (gan gynnwys y Dreth Gyngor), a defnyddio ffynonellau ariannu eraill megis cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Yn yr ymgynghoriad, gofynnir i drigolion Caerdydd am eu barn ar gynigion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau y maent yn eu derbyn gan gynnwys:

  • Costau Parcio:Cynyddu trwyddedau parcio preswyl o £30 i £35 ar gyfer y drwydded gyntaf ac o £80 i £120 am yr ail drwydded.
  • Claddedigaethau ac AmlosgiadauCynyddu pris gwasanaethau claddu gan £100 i £1,140 a gwasanaethau amlosgi gan £40 i £910. Bydd cost prynu bedd yn cynyddu gan £65 i £1,295.
  • Prydau Ysgol: Cynyddu cost prydau ysgol uwchradd rhwng 10c ac 20c, gyda phrisiau newydd yn amrywio o £3.50 i £3.60. Mae hyn er mwyn helpu i bontio cymhorthdal parhaus y cyngor ar gyfer prydau ysgol.
  • Cyrsiau Addysg i Oedolion:Cynyddu ffioedd i dalu costau rhedeg y cyrsiau heb fod angen y cymhorthdal blynyddol o £220,000.

 

Mae'r cynigion hyn yn rhan o'r ymgynghoriad ac nid ydynt wedi'u cadarnhau eto i'w gweithredu yn 2025. Bydd y penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar ôl ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad a thrafodaethau pellach gan y cyngor.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, wrth bennu eu cyllidebau eleni, wedi dangos eu cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus. Y setliad arfaethedig yw, ac eithrio cyfnod y pandemig, y setliad cyllido mwyaf hael y mae Cyngor Caerdydd wedi'i gael ers 2010.

"O'i gymharu â'n hamcangyfrifon yn gynharach eleni, mae ein bwlch cyllideb wedi gostwng gan bron i £36 miliwn. Serch hynny, ar ôl dros ddegawd o gyni a thwf yn y galw yn uwch na thwf mewn cyllid, ni ellir ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus dros nos ac mae diffyg o £23.4 miliwn ar ôl i ni fynd i'r afael ag ef i gydbwyso'r gyllideb. Bydd hyn yn gofyn am arbedion ac effeithlonrwydd, taliadau uwch am rai gwasanaethau a newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.

"Fel yr ydym wedi gwneud erioed, mae'r cynigion arbedion rydyn ni'n eu cyflwyno yn blaenoriaethu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a sicrhau cyllid teg ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig cynnydd net i ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Yn unol â'n hymrwymiad i flaenoriaethu addysg yng Nghaerdydd, ni fydd targedau arbedion ar gyfer ein hysgolion.

"Rydym yn credu y gellir cyflawni arbedion sylweddol drwy arbedion swyddfa gefn, na fydd yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen. Mae'r rhain yn cyfrannu'r swm mwyaf at bontio'r bwlch yn y gyllideb. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn unig yn ddigon i gau'r bwlch cyllideb cyfan o £23.4 miliwn. O ganlyniad, mae'r Cyngor yn ystyried nifer cyfyngedig o newidiadau i fantoli'r gyllideb ar gyfer 2025/26. Rydym eisiau clywed eich barn ar y cynigion hyn."

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'r galw am wasanaethau'r Cyngor yn cynyddu oherwydd sawl ffactor. Mae'r argyfwng costau byw wedi arwain at fwy o bobl yn ddigartref yn y ddinas, o deuluoedd nad ydynt bellach yn gallu fforddio rhenti neu forgeisi i unigolion sengl sy'n wynebu heriau tebyg. Yn ogystal, mae poblogaeth Caerdydd sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o bobl angen ein cefnogaeth bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sydd angen gwasanaethau dementia. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen cymorth arbenigol. Mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol bwysig, ac mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.

"Mae darparu addysg a gofal cymdeithasol - cefnogi plant, oedolion, a phobl hŷn - yn cyfrif am dros 70% o gyllideb y Cyngor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn wedi codi'n sylweddol.

"Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, ers 2022, rydym wedi agor neu ehangu 10 ysgol, wedi adeiladu 900 o dai cyngor newydd gyda chynlluniau ar gyfer 1,900 yn fwy, ac wedi helpu preswylwyr i gael mynediad at dros £52 miliwn mewn budd-daliadau. Rydym hefyd wedi gweithio i adfywio rhannau o'r ddinas ac wedi buddsoddi mewn hybiau a llyfrgelloedd lleol lle gall pobl ddod am help a chyngor.

"Rydym am barhau â'r gwaith pwysig hwn, felly mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y ddadl a'r ymgynghoriad."

Bydd manylion llawn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor o ddydd Iau, 9 Ionawr, gyda chopïau printiedig ar gael mewn llyfrgelloedd, Hybiau, ac adeiladau'r cyngor i'r rhai na allant gymryd rhan yn ddigidol o 13 Ionawr.