31/12/2024
Mae Ysgol Gynradd Sant Cadog yn Llanrhymni wedi cael ei chanmol am ei hamgylchedd croesawgar a chynhwysol yn dilyn arolygiad llwyddiannus gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.
Yn ei adroddiad, mae Estyn yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gadarn yr ysgol, diwylliant dysgu cadarnhaol ac arferion addysgu effeithiol. Cymeradwyodd arolygwyr yr ysgol am feithrin amgylchedd hapus a diogel lle mae disgyblion yn ffynnu, yn ymddwyn yn eithriadol o dda ac yn ffurfio perthnasoedd cryf.
Cryfderau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad:
Mae'r Pennaeth Rachael Fisher, a benodwyd ym mis Ebrill 2022, yn nodedig am ei harweinyddiaeth sicr, ei gweledigaeth glir a'i hymrwymiad i godi safonau trwy ddisgwyliadau uchel a phwrpas moesol cryf.
Dywedodd: "Yn Sant Cadog, rydym yn hynod falch o'r adroddiad hwn, sy'n cydnabod ymroddiad ein staff, gwaith caled ein disgyblion a chefnogaeth ein teuluoedd. Mae ein hymdeimlad cryf o gymuned, wedi'i wreiddio mewn gwerthoedd Catholig cyffredin, yn caniatáu i'n disgyblion ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau bod pob plentyn yn Sant Cadog yn parhau i ffynnu."
Er bod y cwricwlwm yn cael ei ddisgrifio fel un eang a chytbwys, mae Estyn yn nodi meysydd ar gyfer datblygu pellach, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer meddwl yn greadigol a gwelliannau yn narpariaeth dysgu'r cyfnod sylfaen.
Bydd yr ysgol yn mynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn ei chynllun gweithredu, a fydd yn cynnwys;
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod bod Ysgol Gynradd Sant Cadog yn darparu amgylchedd meithringar lle mae pob disgybl yn cael ei annog i gyflawni ei botensial. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol, bydd yr ysgol yn ceisio parhau i ymdrechu am ragoriaeth ac yn edrych ymlaen at weithredu'r argymhellion i wella ein darpariaeth ymhellach ar gyfer pob dysgwr."
Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Sant Cadog 336 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 41.1% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 5.5% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 19.2% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.