Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Ysgol Gynradd Moorland yn cael ei chanmol gan Estyn
Mae Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot wedi derbyn cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn yn ei adroddiad diweddar sy'n tynnu sylw at amgylchedd croesawgar yr ysgol, cefnogaeth gref i ddisgyblion ac ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau ar draws cwricwlwm eang.
Cymeradwyodd arolygwyr yr ysgol am feithrin cymuned gyfeillgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae staff yn darparu gofal rhagorol ac yn dangos esiampl da, gan gyfrannu at ymddygiad rhagorol gan y disgyblion a diwylliant lle gallant ffynnu.
Mae cryfderau allweddol yn cynnwys:
Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Emma Laing: "Rydym yn falch bod Estyn wedi dathlu'r ymrwymiad ein tîm staff ymroddedig, gweithgar a meithringar. Maen nhw'n bodloni arwyddair ein hysgol o 'wneud gwahaniaeth' bob dydd."
Cynllun ariannu newydd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd
Mae cynllun ‘peilot' newydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sydd â'r nod o gefnogi cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd drwy annog hyrwyddwyr i gymryd mwy o risgiau a chynyddu'r cyflenwad o artistiaid newydd sy'n dod i'r amlwg sy'n chwarae yn lleoliadau annibynnol y ddinas.
Mae'r cynllun ALLBWN / OUTPUT - sy'n gwarantu hyrwyddwyr sy'n sicrhau cefnogaeth drwy'r cynllun yn erbyn colledion ariannol o hyd at £1000 - yn golygu os na fydd gwerthiant tocynnau ar gyfer gig yn cyrraedd y lefel sy'n ofynnol i dalu costau fel llogi lleoliad, PA a ffioedd bandiau, bydd y costau hyn yn cael eu talu. Pan fydd digwyddiadau'n llwyddiannus, bydd unrhyw arian a ddyrannwyd sydd heb ei wario yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gigs pellach.
Nod y cynllun yw mynd i'r afael ag un o'r problemau allweddol ledled y DU a godwyd yn ddiweddar gan y sector cerddoriaeth drwy Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd - sef y gostyngiad sylweddol yn nifer yr hyrwyddwyr sy'n gweithio yng Nghaerdydd ers y pandemig, a'r effaith a gaiff hynny ar iechyd cyffredinol ecosystem gerddorol y ddinas.
Mae'r cyhoeddiad am gynllun peilot ALLBWN / OUTPUT yn dilyn lansiad Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad newydd Cyngor Caerdydd yn gynharach yn y flwyddyn sy'n cynnig grantiau o hyd at £10,000 i leoliadau annibynnol y ddinas.
Anfon Twyllwr Dengar i'r carchar am Dwyll gwerth £175,000
Cafodd twyllwr didostur a ddefnyddiodd ei swyn a'i berswâd i dwyllo pedwar o bobl i roi £175,000 iddo ei anfon i'r carchar am dros 5 mlynedd Ddydd Mawrth (17 Rhagfyr) a rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol iddo o 10 mlynedd.
Cafodd William Hanson, 49, o Lawnt Trowbridge, Caerdydd ei ddedfrydu i bum mlynedd a mis yn y carchar am dri ar ddeg o gyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd ar 17 Rhagfyr ar ôl pledio'n euog i'r holl droseddau cyn dyddiad yr achos.
Cododd Hanson, sy'n cael ei adnabod hefyd fel Willam Connors neu Bill Austin, yn sylweddol fwy na gwerth y gwaith a wnaed ganddo ar eiddo ei ddioddefwyr, gan orliwio difrifoldeb y gwaith oedd ei angen neu wneud gwaith nad oedd ei angen. Roedd yr holl waith a wnaed o safon wael iawn, a olygodd y bu'n rhaid i'r holl ddioddefwyr wario hyd yn oed mwy o arian i unioni'r gwaith gwael a wnaed ganddo.
Achos yr erlyniad oedd bod Hanson wedi pwyso a pherswadio ei ddioddefwyr i gael gwaith wedi ei wneud ar eu heiddo, gan ennill eu hymddiriedaeth ei fod yn adeiladwr cymwys. Roedd dioddefwr 93 oed, a fu farw cyn y ddedfryd yn anffodus, wedi annog ei mab i beidio â chanslo ei chytundeb gyda Mr Hanson, nac i gynnwys yr heddlu am ei fod yn ymddangos fel 'dyn neis iawn' a fyddai'n 'gwneud gwaith da ac yn rhoi pris teg iddi'.