Back
Y newyddion gennym ni - 23/12/24

Image

20/12/24 - Ysgol Gynradd Moorland yn cael ei chanmol gan Estyn

Mae Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot wedi derbyn cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn yn ei adroddiad diweddar sy'n tynnu sylw at amgylchedd croesawgar yr ysgol, cefnogaeth gref i ddisgyblion ac ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau ar draws cwricwlwm eang.

Darllenwch fwy yma

 

Image

20/12/24 - Anfon Twyllwr Dengar i'r carchar am Dwyll gwerth £175,000

Cafodd twyllwr didostur a ddefnyddiodd ei swyn a'i berswâd i dwyllo pedwar o bobl i roi £175,000 iddo ei anfon i'r carchar am dros 5 mlynedd Ddydd Mawrth (17 Rhagfyr) a rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol iddo o 10 mlynedd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/12/24 - Cynllun ariannu newydd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd

Mae cynllun ‘peilot' newydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sydd â'r nod o gefnogi cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd drwy annog hyrwyddwyr i gymryd mwy o risgiau

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/12/24 - Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn cael canmoliaeth gan Estyn am ei hethos cynhwysol a'i hymrwymiad i lesiant disgyblion

Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch, ysgol gynradd Gymraeg yn Lecwydd, wedi cael ei chanmol am ei harweinyddiaeth gref, ei hethos gynhwysol, ac am ganolbwyntio ar godi safonau disgyblion yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/12/24 - Pob hwyl i ofalwr hirhoedlog ac uchel ei barch Ysgol Gynradd Gabalfa.

Bydd Ysgol Gynradd Gabalfa yn ffarwelio â'r gofalwr hirhoedlog, Mr Tony King, sy'n ymddeol y mis hwn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/12/24 - Ynys Echni wedi'i hôl-osod â thechnoleg werdd

Ar ynys anghysbell fel Ynys Echni, heb gyflenwad dŵr, nwy na thrydan prif gyflenwad i gysylltu ag ef, mae pethau syml fel berwi tegell ac aros yn gynnes yn y misoedd oerach yn gallu bod yn fwy cymhleth nag maen nhw ar y tir mawr

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/12/24 - Prosiect cyfnewid diwylliannol yn cefnogi cais Ysgol Noddfa

Mae Ysgol Pencae yn Llandaf wedi cymryd cam sylweddol yn ei chais i ddod yn Ysgol Noddfa drwy gymryd rhan mewn prosiect cyfnewid diwylliannol gyda myfyrwyr SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) o Goleg Caerdydd

Darllenwch fwy yma