Back
Pob hwyl i ofalwr hirhoedlog ac uchel ei barch Ysgol Gynradd Gabalfa.

 

19/12/2024

Bydd Ysgol Gynradd Gabalfa yn ffarwelio â'r gofalwr hirhoedlog, Mr Tony King, sy'n ymddeol y mis hwn. 

Mae Tony wedi bod yn gofalu am safle'r ysgol ers dros 30 mlynedd ac mae wedi cefnogi'r gymuned drwy nifer o newidiadau gan gynnwys lletya Ysgol Glan Ceubal ar y safle ac, yn fwy diweddar, cynnal adeilad newydd a chyfleusterau awyr agored ar y cyd ar gyfer Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal.

Wrth feddwl am ei amser yn Ysgol Gynradd Gabalfa, dywedodd Tony, "Wel, alla i ddim credu ei bod hi wedi bod yn 30 mlynedd - lle mae'r amser wedi mynd?!   Cymerais i'r rôl hon fel un dros dro, byth yn credu y byddwn i'n aros yma hyd at ymddeoliad. 

"Yn y cyfnod hwnnw, rydw i wedi cael mab ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i'w weld yn tyfu'n ddyn ifanc gwych.  Rydw i wedi gweithio gyda llawer o bobl wych a'r peth mwyaf rhyfedd yw gweld y plant roeddwn i'n eu nabod flynyddoedd yn ôl yn dod yn rhieni gyda'u plant eu hunain."

Wrth gael ei holi am blant yr ysgol dywedodd Tony, "Yn amlwg rydw i'n well am weithio gyda phlant nag yr oeddwn i byth yn meddwl, a bydd rhai'n dweud bod fy synnwyr digrifwch i'n debyg i blentyn siŵr o fod! Rydw i wrth fy modd gyda'r plant ac rwy'n cael fy nabod fel 'Tony the Toast' achos mae'r plant a fi wastad yn cael sgwrs yn y Clwb Brecwast."

Wrth grynhoi ei amser yn yr ysgol, dywedodd Tony, "Mae wedi bod yn fraint gweithio yma, rwy'n mynd i golli'r holl staff a ddylai fod yn falch o'r gwaith maen nhw'n ei wneud a'r plant gwych maen nhw'n eu dysgu - rwy'n gwybod y byddan nhw'n parhau â'r gwaith da!"

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Carrie Jenkins, "Mae Tony wedi bod yn asgwrn cefn i'n hysgol ers cyhyd. Mae wedi gofalu amdanom ni drwy gyfnodau o newid mawr ac wedi dod â chwerthin a doethineb i'n heriau anoddaf.  Mae'n unigolyn medrus iawn sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Ysgol Gynradd Gabalfa yn amgylchedd diogel a chroesawgar i'n holl ddysgwyr a'u teuluoedd.   Mae ei ymroddiad wedi helpu i siapio ein llwyddiant ac mae ei gyfeillgarwch i ni i gyd wedi gwneud hwn yn lle gwych i weithio, dysgu a chwarae.    Dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddo." 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, "Llongyfarchiadau Tony. Mae ein staff ysgol ym mhob rôl yn chwarae rôl allweddol yn cadw ysgolion yn ddiogel ac yn hapus. Hoffwn ddiolch i Tony am ei wasanaeth a'i ymroddiad dros y blynyddoedd.  Mwynha dy ymddeoliad."

Mae Tony yn bwriadu mwynhau ei ymddeoliad drwy dreulio amser haeddiannol gyda'i deulu.  Yn bysgotwr brwd, mae'n edrych 'mlaen at fwynhau llonyddwch ar yr afon.