Back
Y Diweddariad: 17 Rhagfyr 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Datblygiad tai cyngor gyda nodau carbon isel iawn yn cael cymeradwyaeth
  • Ansawdd aer Caerdydd wedi gwella'n sylweddol yn 2023, ac fe'i rhestrir ymhlith goreuon y DU
  • Cyhoeddwyd Ysgol Gynradd Fairoak fel lleoliad addysg diweddaraf y ddinas

 

Datblygiad tai cyngor gyda nodau carbon isel iawn yn cael cymeradwyaeth

Mae datblygiad tai cyngor arloesol, newydd sydd yn arbed ynni wedi cael sêl bendith yn Llanedern.

Mae cynlluniau ar gyfer y cynllun, sydd i fod i gael eu cyflawni ar dir rhwng canolfan gymdogaeth Y Maelfa ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio heddiw.

Mae'r datblygiad hynod gynaliadwy yn cynnwys 53 o dai dwy, tair a phum ystafell wely fforddiadwy ac eang, sy'n ymarferol ar gyfer bywyd teuluol modern, yn ogystal â naw fflat byw'n annibynnol i oedolion ag anawsterau dysgu.

Bydd technolegau adnewyddadwy fel paneli ffotofoltäig ar gyfer pob cartref, pympiau gwres ffynhonnell aer a phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cyfrannu at leihau effaith y cartrefi ar y blaned tra bydd systemau draenio trefol cynaliadwy (SDCau) yn hybu gwytnwch y cynllun ac yn creu gofod amlswyddogaethol deniadol i wneud y gorau o fioamrywiaeth.

Wedi'i lleoli mewn tirwedd werdd gan greu cymdogaeth iach a deniadol, mae'r datblygiad wedi'i chynllunio i annog a chefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw, gan gynnwys cyfleoedd i dyfu bwyd, gyda mannau cymunedol diogel a chroesawgar sy'n hyrwyddo bod yn gymdogol a rhyngweithio cymdeithasol, a chyfleoedd i breswylwyr gerdded a beicio.

Gan geisio gwella cysylltedd yn sylweddol o amgylch yr ardal, bydd cyfres o lwybrau newydd sy'n cysylltu ag amwynderau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu creu fel rhan o'r cynllun a enillodd Wobr Eiddo Caerdydd yn ddiweddar am y datblygiad preswyl gorau. Bydd ail-osod y llwybr cyhoeddus i'r gorllewin o'r safle, sydd ar hyn o bryd yn gwahanu caeau chwarae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant o'r ysgol, yn galluogi'r ysgol i ddod â'i hystâd at ei gilydd.

Darllenwch fwy yma

 

Ansawdd aer Caerdydd wedi gwella'n sylweddol yn 2023, ac fe'i rhestrir ymhlith goreuon y DU

Mae'r data ansawdd aer ar gyfer 2023 yn dangos bod aer Caerdydd yn lanach, gyda chrynodiadau cyfartalog blynyddol llygryddion ymhell islaw terfynau cyfreithiol.

Nodwyd y gwelliant hwn yn ddiweddar gan Auto Trader, a sgoriodd Caerdydd ymhlith y 10 dinas orau yn y DU am yr ansawdd aer gorau, sy'n golygu mai hi yw'r unig ddinas yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd hon.

I fonitro llygredd aer, mae'r cyngor yn defnyddio gwahanol orsafoedd monitro ansawdd aer sy'n olrhain llygryddion fel Nitrogen Deuocsid (NO2) a deunydd gronynnol (PM10 a PM2.5). Mae terfynau cyfreithiol wedi eu gosod ar gyfer NO2 a PM10, ac mae rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru fonitro ac adrodd ar eu canfyddiadau i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.

Dyma rai o brif ganfyddiadau data 2023:

Safleoedd Monitro Awtomataidd

Cyn mis Mai 2023, roedd pedwar safle (Fredrick Street, Richards Terrace, Stryd y Castell, ac Ysgol Gynradd Lakeside) yn cydymffurfio â lefelau NO2, PM10, a PM2.5. Roedd 45 safle ychwanegol a osodwyd ym mis Mai 2023 hefyd yn cydymffurfio.

Safleoedd Monitro Anawtomataidd

Dangosodd data o 135 o safleoedd sy'n monitro NO2 eu bod yn cydymffurfio â safonau ansawdd aer, gyda gostyngiad o 37% mewn allyriadau NO2 ers 2019. Roedd crynodiadau cyfartalog NO2 yn is nag yn ystod y pandemig.

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAAau)

Mae gan Gaerdydd bedwar ARhAA (Canol y Ddinas, Stephenson Court, Pont Elái, a Llandaf). Mae'r data diweddaraf yn dangos gwelliannau ym mhob ARhAA, gyda chrynodiadau llygryddion yn is na'r terfynau cyfreithiol.

Darllenwch fwy yma

 

Cyhoeddwyd Ysgol Gynradd Fairoak fel lleoliad addysg diweddaraf y ddinas

Mae ysgol gynradd newydd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd wedi cael ei henwi'n Ysgol Gynradd Fairoak a bydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2025. 

Mae'r cyfnod derbyn ceisiadau am leoedd Derbyn yn yr ysgol newydd ei sefydlu, a fydd yn darparu 420 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg a meithrinfa, bellach ar agor. Bydd Ysgol Gynradd Fairoak yn dod â disgyblion, staff a chymunedau ynghyd o Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone fel rhan o gynlluniau i adnewyddu a gwella'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn yr ardal.  

Mae enw'r ysgol newydd, a ddewiswyd gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn dilyn ymgynghoriad helaeth, wedi ei ysbrydoli gan fyd natur a choeden dderw hynafol 600 oed a arferai sefyll yn falch yn ardal yr ysgol. 

Mae plant wedi chwarae rhan bwysig wrth greu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol newydd sy'n ceisio cwmpasu ymrwymiad i feithrin cymuned fywiog a chynhwysol lle mae pawb yn rhannu ymdeimlad dwfn o hunaniaeth a pherthyn. Ffurfiwyd cyngor ysgol newydd gyda disgyblion o ysgolion cynradd Allensbank a Gladstone ac mae disgyblion wedi bod yn rhan annatod o broses ddylunio logo a gwisg newydd yr ysgol a fydd yn cael eu lansio yn y flwyddyn newydd.  

Bydd yr ysgol newydd yn ar gyffordd Fairoak Road, Heol y Crwys, Teras Cathays a Heol yr Eglwys Newydd, gan feddiannu'r safle a rennir ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica. 

Darllenwch fwy yma