17.12.24
Ar ynys anghysbell fel Ynys Echni, heb gyflenwad dŵr, nwy na thrydan prif gyflenwad i gysylltu ag ef, mae pethau syml fel berwi tegell ac aros yn gynnes yn y misoedd oerach yn gallu bod yn fwy cymhleth nag maen nhw ar y tir mawr - ac maen nhw hefyd yn gallu creu mwy o allyriadau carbon sy'n niweidiol i'r hinsawdd nag sydd raid.
Nawr, mae gwarchodfa natur sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd yn troi'n wyrddach nag erioed o'r blaen gyda chymorth arae solar 14 panel newydd â batris storio, drysau â leinin thermol yn ffermdy'r ynys a system gynaeafu dŵr glaw newydd sy'n cael ei phweru gan ddisgyrchiant.
Y paneli solar newydd sydd wedi'u gosod ar Ynys Echni.
Mae'r dechnoleg werdd yn cael ei gosod o ganlyniad i £42,000 o gyllid cyfalaf fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol i newid hinsawdd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae angen i bob un ohonom fel unigolion wneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n byw ac yn gweithio os ydyn ni'n mynd i chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Ond felly hefyd busnesau a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd, gan gynnwys y Cyngor - a dyna'r union beth rydyn ni'n ei wneud trwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned.
"Bydd y dechnoleg werdd hon ar Ynys Echni yn lleihau ein hallyriadau CO2e tua 3 tunnell y flwyddyn. Efallai nad yw hynny'n swnio'n llawer iawn, ond mae pob dewis gwyrdd yn cyfrif, ac ynghyd â'r holl newidiadau eraill rydyn ni eisoes wedi'u gwneud i leihau ôl troed carbon y Cyngor - pethau fel newid i oleuadau stryd LED, dechrau'r newid i fflyd cerbydau trydan a rhoi paneli solar a phympiau gwres yng nghartrefi newydd y Cyngor, mae'n gwneud cyfraniad ystyrlon at ein cynlluniau i ddod yn gyngor carbon niwtral."
Yn 2019/20, pan lansiodd Cyngor Caerdydd ei ymateb Caerdydd Un Blaned i newid hinsawdd, creodd yr awdurdod lleol 42,211 tunnell o CO2e yn uniongyrchol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2022/23 yn dangos bod hynny wedi gostwng 11.7% i 37,284 tunnell o CO2e.