17/12/2024
Mae Ysgol Pencae yn Llandaf wedi cymryd cam sylweddol yn ei chais i ddod yn Ysgol Noddfa drwy gymryd rhan mewn prosiect cyfnewid diwylliannol gyda myfyrwyr SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) o Goleg Caerdydd a'r Fro.
Daeth y prosiect â disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Pencae a grŵp o fyfyrwyr sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches ynghyd ar gyfer cyfnewid ieithyddol a diwylliannol unigryw.
Trwy gyfres o negeseuon fideo, rhannodd y disgyblion a'r myfyrwyr fewnwelediad o'u hieithoedd a'u traddodiadau, gan greu cysylltiadau ystyrlon a meithrin cyd-ddealltwriaeth.
Cynigiodd disgyblion Ysgol Pencae gymorth ymarferol drwy ddysgu ymadroddion Cymraeg a rhannu eu profiadau o siarad Cymraeg yn yr ysgol, gartref ac yn eu cymuned. Yn eu tro, cyflwynodd myfyrwyr SSIE y plant i agweddau ar eu diwylliannau a'u hieithoedd brodorol, gan gyfoethogi'r ddealltwriaeth o amrywiaeth yng nghymuned Caerdydd.
Daeth y mewnwelediadau a gasglwyd yn rhan o brosiect cydweithredol yn archwilio diwylliant, hanes ac iaith Cymru, gan alluogi'r ddau grŵp i ddyfnhau eu gwerthfawrogiad o dreftadaeth a chynwysoldeb.
Dathlodd Siwan Dafydd, pennaeth Ysgol Pencae, y fenter fel profiad trawsnewidiol: "Roedd y cynllun cyfnewid hwn yn gyfle euraidd i'n disgyblion estyn croeso cynnes a chynnig cefnogaeth ymarferol i'r myfyrwyr. Dysgon nhw am ddiwylliannau gwahanol, dysgu geiriau newydd mewn ieithoedd eraill, ac ymfalchïo mewn rhannu traddodiadau Cymru a'r Gymraeg. Mae'r prosiect hwn yn ymgorffori gwerthoedd Ysgol Noddfa—hyrwyddo cynwysoldeb, dealltwriaeth, ac ysbryd cymunedol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ms Davies am ei gwaith yn trefnu'r profiad gwerthfawr hwn i'n disgyblion."
Beth yw Ysgol Noddfa?
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Trwy weithio tuag at statws Ysgol Noddfa, mae Ysgol Pencae yn parhau i adeiladu amgylchedd lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
"Rydym eisiau i'n holl ysgolion fod yn fannau diogel sy'n croesawu pawb, gan gynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag trais ac erledigaeth, a gobeithio bydd mwy o ysgolion yn dechrau ar eu taith i fod yn Ysgol Noddfa."
Am fwy o wybodaeth am ddod yn Ysgol Noddfa, cysylltwch â GCLlETh / WLGET ynGCLlETh@caerdydd.gov.uk