13/12/24 - Cyhoeddwyd Ysgol Gynradd Fairoak fel lleoliad addysg diweddaraf y ddinas
Mae ysgol gynradd newydd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd wedi cael ei henwi'n Ysgol Gynradd Fairoak a bydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2025.
12/12/24 - Cytundeb wedi'i lofnodi yn mynd ag Adfywio Glanfa'r Iwerydd i'r cam nesaf
Mae Cyngor Caerdydd a'r cwmni adeiladu Goldbeck wedi ymrwymo i Gytundeb Gwasanaethau Cyn Adeiladu (CGCA), gan fynd ag adfywio Glanfa'r Iwerydd ymlaen i'r cam nesaf.
12/12/24 - Canmol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan am amgylchedd cynhwysol a rhagoriaeth academaidd yn arolwg diweddaraf Estyn
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan, yn Llanfihangel-ar-Elái, wedi ei chanmol yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf gan Estyn, yr arolygiaeth dros addysg yng Nghymru.
12/12/24 - Ansawdd aer Caerdydd wedi gwella'n sylweddol yn 2023, ac fe'i rhestrir ymhlith goreuon y DU
Mae'r data ansawdd aer ar gyfer 2023 yn dangos bod aer Caerdydd yn lanach, gyda chrynodiadau cyfartalog blynyddol llygryddion ymhell islaw terfynau cyfreithiol.
12/12/24 - Gwaith yn dechrau'n swyddogol ar godi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Court
Mae seremoni arbennig wedi nodi dechrau'r gwaith o adeiladu dau adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Court.
12/12/24 - Datblygiad tai cyngor gyda nodau carbon isel iawn yn cael cymeradwyaeth
Mae datblygiad tai cyngor arloesol, newydd sydd yn arbed ynni wedi cael sêl bendith yn Llanedern.
10/12/24 - Goroesi Storm Darragh ar Ynys Echni
Ar ddiwrnod heulog, nid oes llawer o leoedd gwell i ddianc bywyd y ddinas ac ailgysylltu â natur, nag ar ynys anghysbell fel Ynys Echni. Ond yn ystod storm, mae bywyd ar ynys fechan ym Môr Hafren ymhell o baradwys
09/12/24 - Storm Darragh: Mae'r gwaith glanhau yn parhau
Wrth i Storm Darragh symud i ffwrdd o lannau'r DU, mae'r gwaith glanhau yng Nghaerdydd yn parhau, gyda staff y cyngor yn parhau i gael gwared â choed sydd wedi cwympo er mwyn sicrhau bod tir cyhoeddus yn ddiogel i drigolion ei ddefnyddio.
09/12/24 - Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynllun Caerdydd i Wella Llwybrau Bysus Allweddol
Gwahoddir preswylwyr a chymudwyr yng Nghaerdydd i rannu eu barn ar fenter newydd i wella chwe phrif lwybr bws i ganol y ddinas.