Back
Cyhoeddwyd Ysgol Gynradd Fairoak fel lleoliad addysg diweddaraf y ddinas

 

13/12/2024

Mae ysgol gynradd newydd i wasanaethuCathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewyddwedi cael ei henwi'n Ysgol Gynradd Fairoak a bydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2025. 

Mae'r cyfnod derbyn ceisiadau am leoedd Derbyn yn yr ysgol newydd ei sefydlu, a fydd yn darparu 420 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg a meithrinfa, bellach ar agor. Bydd Ysgol Gynradd Fairoak yn dod â disgyblion, staff a chymunedau ynghyd oYsgolion Cynradd Allensbank a Gladstone fel rhan o gynlluniau i adnewyddu a gwella'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn yr ardal. 

Mae enw'r ysgol newydd, a ddewiswyd ganddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn dilyn ymgynghoriad helaeth, wedi eiysbrydoli gan fyd natur a choeden dderw hynafol 600 oed a arferai sefyll yn falch yn ardal yr ysgol. 

Mae plant wedi chwarae rhan bwysig wrth greu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol newydd sy'n ceisio cwmpasu ymrwymiad i feithrin cymuned fywiog a chynhwysol lle mae pawb yn rhannu ymdeimlad dwfn o hunaniaeth a pherthyn. Ffurfiwyd cyngor ysgol newydd gyda disgyblion o ysgolion cynradd Allensbank a Gladstone ac mae disgyblion wedi bod yn rhan annatod o broses ddylunio logo a gwisg newydd yr ysgol a fydd yn cael eu lansio yn y flwyddyn newydd.  

Bydd yr ysgol newydd ynar gyffordd Fairoak Road, Heol y Crwys, Teras Cathays a Heol yr Eglwys Newydd, gan feddiannu'r safle a rennir ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica.

Dywedodd y Pennaeth, Paula Shipton-Jones:"Rydym yn falch iawn o gychwyn ar y daith gyffrous hon o ddod â dwy ysgol sefydledig ynghyd i ffurfio un ysgol gynradd newydd. Mae'r uno hwn nid yn unig yn adeiladu ar y llwyddiannau rhyfeddol y mae'r ddwy ysgol eisoes wedi'u cyflawni, ond mae hefyd yn creu cyfle unigryw i uno ein cymuned. "Gyda'n gilydd, byddwn yn rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan gyfoethogi'r profiadau dysgu i'n holl ddysgwyr. Bydd y cydweithrediad hwn yn meithrin amgylchedd bywiog lle gall pob plentyn ffynnu a chyrraedd ei botensial llawn."

Ychwanegodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, y Cynghorydd Chris Weaver:"Mae dod â'r ddwy ysgol yma ynghyd yn yr Ysgol Gynradd Fairoak newydd yn cynnig cyfle i greu cymuned ysgol newydd wych, ac mae mor wych gweld plant eisoes yn creu cyfeillgarwch ac yn gweithio gyda'i gilydd. Rydym am gydnabod hanes gwych Allensbank a Gladstone, wrth greu ysgol newydd gefnogol a chreadigol a fydd yn helpu disgyblion i lwyddo am flynyddoedd lawer i ddod."

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Bydd sefydlu Ysgol Gynradd Fairoak yn darparu cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i blant a theuluoedd yn yr ardal ac mae'n garreg filltir bwysig. Mae'n hyfryd clywed bod plant yn edrych ymlaen at ymuno â'r ysgol newydd ac eisoes yn creu cyfeillgarwch newydd drwy ystod o weithgareddau pontio. 

"Bydd uno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone yn cyflwyno gwelliannau mewn adnoddau a buddsoddiad ac yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth dysgu ac addysgu, gan helpu i ddiwallu anghenion y gymuned, gan sicrhau trosglwyddiad didrafferth i ddisgyblion o dair oed i'r ysgol uwchradd.

"Rydym yn cydnabod y gall unrhyw newidiadau i ysgolion achosi emosiynau cymysg ac efallai bod llawer yn y gymuned yn teimlo ymdeimlad o hiraeth - yn wir aeth fy mhlant fy hun i ysgol Gladstone - ond rwy'n gwybod hefyd pa mor agos mae'r ddwy ysgol yn cydweithio yn barod ac mae cyffro gwirioneddol ynglŷn â'r hyn sydd o'n blaenau."

Bydd Ysgolion Allansbank a Gladstone yn cau yn ffurfiol ar 31 Awst 2025. Mae'r cyfnod derbyn ceisiadau am leoedd Derbyn,i ddechrau ym mis Medi 2025, bellach ar agor.Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13 Ionawr 2025. 

Bydd disgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn Ysgolion Allansbank a Gladstone yn gallu trosglwyddo i'r ysgol newydd a bydd gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu i rieni'n uniongyrchol.  

Mae'r ysgol newydd yn rhan o gynlluniau adnewyddu a gwella'r Cyngor i ad-drefnu pedair ysgol gynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd. Mae cynigion wedi'u cynllunio i wella cyfleoedd dysgu a chefnogi ysgolion gyda phwysau ariannol yn yr ardal, wrth helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol.

 

Mae'r cynlluniau, y cytunwyd arnyntgan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Ionawr 2024, yn cynnwys: 

  • Uno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda dosbarth meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica. 
  • Trosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.
  • Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
  • Trosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan gan alluogi'r ysgol i gael darpariaeth feithrin, yn dilyn cytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica.

Bydd y dosbarth ymyrraeth gynnar lleferydd ac iaith, a gynhelir ar hyn o bryd gan Allensbank, yn parhau ac yn trosglwyddo i'r ysgol newydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae'r cynlluniau y cytunwyd arnynt yn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r buddion mwyaf posib i bob dysgwr, a thrwy gydweithio a defnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon, bydd yr ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys gwell adnoddau a chyfleoedd dysgu i ddisgyblion a staff. Mae'r adeiladau presennol yn cael eu cadw fel y gellir tawelu meddwl cymunedau'r ysgol y bydd digon o leoedd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."