12/12/24
Mae Cyngor Caerdydd a'r cwmni adeiladu Goldbeck wedi ymrwymo i Gytundeb Gwasanaethau Cyn Adeiladu (CGCA), gan fynd ag adfywio Glanfa'r Iwerydd ymlaen i'r cam nesaf.
Mae'r CGCA yn nodi cam sylweddol yn natblygiad llety llai, mwy effeithlon ar gyfer Neuadd y Sir newydd; cyfleusterau newydd ar gael at ddefnydd cymunedol; adfywio'r ardal yn ehangach; a chartref i Gaerdydd Fyw a phrosiect Capella, cydweithrediad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Roedd penderfyniad y Cabinet ym mis Hydref i ddatblygu'r prosiect yng Nglanfa'r Iwerydd yn canolbwyntio ar yr hyn oedd er budd gorau Cyngor Caerdydd o ran sicrhau llety swyddfa cost-effeithiol, effeithlon o ran ynni ac addas at y diben dros yr hirdymor, ond heb os, mae nifer o fanteision pellgyrhaeddol yn gysylltiedig â'r penderfyniad hwnnw hefyd.
"Rwy'n croesawu llofnodi'r Cytundeb Gwasanaethau Cyn Adeiladu rhwng Cyngor Caerdydd a Goldbeck, gan ei fod yn arwydd o'n hymrwymiad i Lanfa'r Iwerydd a Butetown, a'n bwriad i aros ym Mae Caerdydd."
Byddai'r datblygiad newydd yn dod â nifer o fanteision, gan gynnwys:
Llai o Fuddsoddiad Cyfalaf: Bydd yr adeilad newydd yn costio tua hanner pris moderneiddio Neuadd y Sir bresennol.
Costau Rhedeg Is: Bydd yr adeilad ynni-effeithlon, llai yn lleihau costau rhedeg blynyddol yn sylweddol.
Gofod Swyddfa Modern: Bydd y swyddfa newydd yn fwy addas ar gyfer arferion gwaith modern a gweithio mewn partneriaeth.
Adeilad Carbon Sero-net: Bydd y swyddfa newydd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau Caerdydd Un Blaned y Cyngor trwy fod yn adeilad carbon sero-net.
Cefnogaeth i'r Gymuned Leol: Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys mannau a rennir fydd ar gael i'r gymuned eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau
Cymorth Tai: Trwy alluogi adfywio ehangach yn yr ardal, byddai'r datblygiad newydd yn rhyddhau tir ar gyfer tai cymdeithasol.
Hwb Economaidd: Bydd y penderfyniad i adeiladu'r swyddfa newydd fel rhan o ddatblygiad ehangach 'Caerdydd Fyw' yn helpu i gyflymu adfywio Bae Caerdydd, gan ddod â mwy o swyddi ac ymwelwyr i'r ddinas.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Bydd prosiect Glanfa'r Iwerydd yr ydym yn ei ddatblygu drwy'r CGCA gyda Goldbeck yn cychwyn cam nesaf adfywio Bae Caerdydd, ac mae ein hymrwymiad yn rhoi sicrwydd a hyder i'r sector preifat fuddsoddi yn yr ardal a dod â chyflogaeth fedrus i Butetown.
"Rydym eisiau sefydlu Bae Caerdydd fel un o brif atyniadau ymwelwyr y DU, a bydd elfen Caerdydd Fyw o'r cam hwn o adfywiad Glanfa'r Iwerydd yn dod â gofod digwyddiadau sylweddol ochr yn ochr â'r prosiect arena dan do gerllaw, gan fynd â'r ddinas i'r lefel nesaf o ran cynnal cynadleddau."
Wrth ymrwymo i CGCA gyda Goldbeck, mae gwaith wedi dechrau i gwblhau a chymeradwyo Cytundeb Datblygu. Disgwylir i hyn gael ei gwblhau ddiwedd y Gwanwyn / dechrau Gaeaf 2025 a bydd adroddiad pellach gerbron y Cabinet i'w ystyried bryd hynny.
Mae Goldbeck yn gwmni dylunio ac adeiladu blaenllaw sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 50 mlynedd. Mae'r cwmni wedi cyflawni prosiectau mawr ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac yn awr yn sefydlu canolfan ddylunio yng Nghaerdydd. Mae prosiect Atlantic Wharf yn ei brosiect cyntaf yng Nghymru ac yn un o'r mwyaf yn y DU.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GOLDBECK, Hans-Jörg Frieauff: "Rydym yn falch iawn o fod yn gwireddu prosiect o'r maint hwn yng Nghaerdydd. Gweithiodd ein tîm GOLDBECK yn ddwys gyda Chyngor Dinas Caerdydd i ddatblygu'r cysyniad. Nawr mae ein gwaith yn talu ar ei ganfed: Gyda'r prosiect adeiladu hwn, rydym yn gosod safonau newydd ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad trefol ac adfywiad ardal Bae Caerdydd."
Llinell Amser Prosiect Swyddfa Graidd Cyngor Caerdydd
Rhagfyr 2021: Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn tynnu sylw at y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw yn Neuadd y Sir, a Neuadd y Ddinas (amcangyfrifir bod y gost gyfunol ar gyfer y ddau adeilad wedi codi i dros £200 miliwn).
Mehefin 2023: Ym mis Mehefin y llynedd, amlinellodd y Cabinet y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer 'Caerdydd Fyw' pan ddewisodd adeilad newydd fel y ffordd orau o osgoi costau cynyddol a chymeradwyodd gaffael swyddfa newydd.
Hydref 2024: Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i benodi cynigydd cymeradwy
Rhagfyr 2024: Cyngor Caerdydd yn ymrwymo i Gytundeb Gwasanaeth Cyn-Contract (CGCA) gyda Goldbeck
Mai 2024: Roedd y gwaith sy'n gysylltiedig â'r CGCA yn anelu at gwblhau, a chytunwyd ar y Cytundeb Datblygu