Back
Canmol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan am amgylchedd cynhwysol a rhagoriaeth academaidd yn arolwg diwedd

 

12/12/2024

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan, yn Llanfihangel-ar-Elái, wedi ei chanmol yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf gan Estyn, yr arolygiaeth dros addysg yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddiwylliant anogol cryf yr ysgol, ei chryfderau academaidd, a'i hymrwymiad i les disgyblion, gan nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach hefyd.

 

Canfyddiadau allweddol o'r arolwg:

  • Amgylchedd cynhwysol a chefnogol: Mae'r ysgol yn meithrin awyrgylch gofalgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn cael eu parchu.   Mae'r amgylchedd hwn yn cefnogi bron pob disgybl i ddatblygu agweddau rhagorol tuag at ddysgu a chyflawni ymddygiad rhagorol.
  • Cynnydd ar gyferDisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Mae cymorth effeithiol yn galluogi disgyblion ag ADY i wneud cynnydd sylweddol, gan ddangos ymroddiad yr ysgol i gynwysoldeb ac addysg wedi'i theilwra. 
  • Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd o Safon Uchel: Mae'r staff addysgu yn llwyddo i hyrwyddo llythrennedd, gan feithrin cariad at ddarllen a chryfhau sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu disgyblion. Mae sgiliau rhifedd hefyd yn uchafbwynt, gyda disgyblion yn defnyddio'r rhain yn hyderus mewn gweithgareddau ystyrlon, trawsgwricwlaidd.
  • Cwricwlwm sy'n Ymgysylltu: Mae'r cwricwlwm sydd wedi'i ddatblygu'n feddylgar yn cynnig profiadau dysgu sy'n cyfoethogi i ddisgyblion, gan gynnwys ymweliadau a rhyngweithio sy'n cynyddu eu dealltwriaeth o amrywiaeth a'u cymuned. Mae cyfleoedd arwain, fel cymryd rhan yn Senedd yr ysgol, yn arfogi disgyblion hŷn â sgiliau gwerthfawr.

 

Cafodd y Pennaeth, a benodwyd yn 2016, a'r corff llywodraethu eu cydnabod am eu cyfraniadau gwerthfawr mewn perthynas ag arweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r llywodraethwyr yn cefnogi ac yn monitro perfformiad yr ysgol yn effeithiol, wrth fod staff yn cyfathrebu'n glir ac yn rheolaidd â rhieni er mwyn rhoi gwybod iddynt am weithgareddau a datblygiadau'r ysgol.

 

Dywedodd y Pennaeth, Ceri Hawkins: "'Rydym wrth ein bodd gyda'n hadroddiad arolygu sy'n cydnabod natur gynhwysol ein hysgol, gan ddarparu amgylchedd meithringar a gofalgar sy'n galluogi ein disgyblion i ffynnu. 

"Mae'n dyst i ymroddiad a gwaith caled yr holl staff, sy'n gweithio'n ddiflino i roi cyfleoedd i bob plentyn lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym wrth ein bodd bod cyfraniad ein disgyblion i benderfyniadau ac arweinyddiaeth yr ysgol, drwy 'Senedd' ein hysgol wedi cael ei gydnabod fel rhan o 'giplun' Estyn. Mae'r ysgol yn ddiolchgar am gefnogaeth cymuned gyfan yr ysgol yr ydym yn dathlu canfyddiadau'r adroddiad hwn gyda nhw." 

 

Yn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud dau argymhelliad ar gyfer gwella pellach y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu. 

  • Gwella sgiliau digidol a Chymraeg disgyblion.
  • Darparu rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer dewis wrth ddysgu, gan feithrin mwy o annibyniaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchu'n glir ymrwymiad yr ysgol i ddarparu amgylchedd dysgu diogel, cefnogol a chyfoethog i bob disgybl. Mwynheais ddysgu sut mae'r ysgol yn galluogi arweinyddiaeth disgyblion drwy ei Senedd, a sut y darperir cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ysgwyddo cyfrifoldebau arwain a datblygu sgiliau sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywyd a gwaith yr ysgol. Llongyfarchiadau i'r staff, y disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol ar yr adroddiad calonogol hwn."

 

Adeg yr arolwg, roedd gan Ysgol Gynradd Sain Ffagan 205 o ddisgyblion ar y gofrestr. Roedd 17.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 5% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Roedd 11% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.