Mae cynlluniau ar gyfer y cynllun, sydd i fod i gael eu cyflawni ar dir rhwng canolfan gymdogaeth Y Maelfa ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio heddiw.
Mae'r datblygiad hynod gynaliadwy yn cynnwys 53 o dai dwy, tair a phum ystafell wely fforddiadwy ac eang, sy'n ymarferol ar gyfer bywyd teuluol modern, yn ogystal â naw fflat byw’n annibynnol i oedolion ag anawsterau dysgu.
Bydd technolegau adnewyddadwy fel paneli ffotofoltäig ar gyfer pob cartref, pympiau gwres ffynhonnell aer a phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cyfrannu at leihau effaith y cartrefi ar y blaned tra bydd systemau draenio trefol cynaliadwy (SDCau) yn hybu gwytnwch y cynllun ac yn creu gofod amlswyddogaethol deniadol i wneud y gorau o fioamrywiaeth.
Wedi'i lleoli mewn tirwedd werdd gan greu cymdogaeth iach a deniadol, mae'r datblygiad wedi'i chynllunio i annog a chefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw, gan gynnwys cyfleoedd i dyfu bwyd, gyda mannau cymunedol diogel a chroesawgar sy'n hyrwyddo bod yn gymdogol a rhyngweithio cymdeithasol, a chyfleoedd i breswylwyr gerdded a beicio.
Gan geisio gwella cysylltedd yn sylweddol o amgylch yr ardal, bydd cyfres o lwybrau newydd sy'n cysylltu ag amwynderau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu creu fel rhan o'r cynllun a enillodd Wobr Eiddo Caerdydd yn ddiweddar am y datblygiad preswyl gorau. Bydd ail-osod y llwybr cyhoeddus i'r gorllewin o'r safle, sydd ar hyn o bryd yn gwahanu caeau chwarae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant o'r ysgol, yn galluogi'r ysgol i ddod â’i hystâd at ei gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rydym yn gosod y bar yn uchel gyda'r datblygiad hwn a'n bwriad yw i safle Teilo Sant fod yn esiampl o gynllun tai sy'n arbed ynni, gan ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'n gweledigaeth Un Blaned trwy ddarparu cartrefi carbon isel, fforddiadwy a chyfforddus.
"Mae momentwm gwirioneddol y tu ôl i'n rhaglen datblygu tai ar hyn o bryd gyda chyfres reolaidd o gymeradwyo ceisiadau cynllunio, dechrau ar safleoedd a chwblhau cynlluniau ledled y ddinas, sy'n golygu ein bod yn darparu cartrefi cyngor newydd sydd eu hangen yn fawr ar raddfa fawr ac yn gyflym.
"Mae'n bwysig, er ein bod yn ymateb i heriau uniongyrchol pwysau ar wasanaethau digartrefedd, ein bod hefyd yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer 4,000 o gartrefi newydd i'r ddinas oherwydd bod cysylltiad cynhenid rhwng y ddau faes gwaith hyn wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r galw uchel iawn am gartrefi o safon."
Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio heddiw (12 Rhagfyr) ar gyfer datblygu'r 62 o gartrefi newydd o ansawdd uchel. Bydd cynlluniau ar gyfer cyfleuster pob tywydd, wedi’i oleuo, ar gae chwarae’r ysgol yn lle’r cae chwaraeon mawr presennol, sy'n rhan o adfywiad ehangach yr ardal, yn destun cais cynllunio ar wahân yn fuan.