Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Perfformiad cryf gwasanaethau llyfrgell y Brifddinas mewn asesiad blynyddol
Mae gwasanaethau llyfrgell yng Nghaerdydd yn parhau i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid, yn ôl adroddiad newydd.
Yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru blynyddol, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, mae Caerdydd unwaith eto wedi perfformio'n dda yn erbyn ystod o ddangosyddion a mesurau ansawdd sy'n asesu'r gwasanaethau a ddarparwyd.
Mae Caerdydd wedi bodloni holl 13 elfen graidd y safonau'n llawn ac, o'r 7 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae'n cyflawni chwech yn llawn ac un yn rhannol.
Mae cymorth defnyddwyr a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn parhau i fod yn gryfderau allweddol i'r gwasanaeth ac mae'r staff yn amlwg yn gwneud ymdrechion i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol i gwsmeriaid ag ystod eang o anghenion a diddordebau.
Canfu'r asesiad blynyddol fod Caerdydd yn chwartel uchaf awdurdodau llyfrgelloedd Cymru ar gyfer mynychu digwyddiadau fesul pen o'r boblogaeth ac mae cyfanswm y mynychwyr wedi codi 80% o'i gymharu â 2022-23. Mae'r gwasanaeth hefyd yn y chwartel uchaf ar gyfer cyhoeddiadau i oedolion a phlant, gyda chyhoeddiadau llyfrau oedolion yn cynyddu 16% a chyhoeddiadau plant 5% o'i gymharu â 2022-23.
Ysgol Gynradd Rhiwbeina wedi'i henwi ymhlith y 49 o leoliadau i dderbyn glasbrennau 'Coed Gobaith' y Sycamore Gap
Mae Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Ngogledd Caerdydd ymhlith 49 o leoliadau ledled y DU fydd yn derbyn un o lasbrennau coeden y Sycamore Gap a fu'n sefyll wrth Fur Hadrian nes iddi gael ei chwympo'n annisgwyl ym mis Medi 2023.
Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y cyhoeddiad yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed ar ôl gwahodd unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y DU i wneud cais am lasbren, gan nodi blwyddyn ers i'r goeden boblogaidd gael ei chwympo'r llynedd.
Cafodd bron i 500 o geisiadau eu derbyn ar gyfer y 49 o lasbrennau - un i gynrychioli pob troedfedd o uchder y goeden ar adeg ei chwympo.
Roedd cais llwyddiannus Ysgol Gynradd Rhiwbeina yn disgrifio bod gan ei disgyblion angerdd gwirioneddol am ddysgu am natur, a'u bod nhw wrth eu bodd yn yr awyr agored ar bob cyfle.
Mae'r ysgol wedi defnyddio stori coeden y Sycamore Gap fel ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu am y rhan bwysig y mae coed yn ei chwarae yn ein byd, ac fel symbol o obaith yn wyneb ffolineb dyn.
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynllun Caerdydd i Wella Llwybrau Bysus Allweddol
Gwahoddir preswylwyr a chymudwyr yng Nghaerdydd i rannu eu barn ar fenter newydd i wella chwe phrif lwybr bws i ganol y ddinas.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar 9 Rhagfyr ac yn rhedeg am saith wythnos tan 27 Ionawr, ac mae pawb sy'n byw yng Nghaerdydd neu'n teithio iddi yn cael eu hannog i ddarllen am y strategaeth a chwblhau'r arolwg byr yma.
Nodwyd y cynigydd a ffefrir ar gyfer Partneriaeth Adeiladu Tai Caerdydd a'r Fro
Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn eu partneriaeth gyffrous i adeiladu cartrefi fforddiadwy cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyflymder ar draws y rhanbarth.
Yn dilyn proses gaffael deialog gystadleuol sydd wedi nodi'r cynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro, bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried argymhellion i gymeradwyo penodi'r cynigydd a ffefrir yn bartner datblygu yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 12 Rhagfyr.
Y bartneriaeth yw ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei chynllun penigamp Cartrefi Caerdydd, ac mae'n rhan o'i chynlluniau datblygu ehangach - y rhaglen ddatblygu fwyaf dan arweiniad cyngor yng Nghymru, allai godi mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gan gynnwys o leiaf 2,800 o dai cyngor newydd.
Mae'r cydweithio â Bro Morgannwg yn ganlyniad ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol ledled y rhanbarth i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau tai presennol drwy godi o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.
Bydd tua hanner yr holl gartrefi newydd yn eiddo fforddiadwy i'w cadw gan y Cynghorau ar gyfer cynlluniau rhent cymdeithasol neu ranberchenogaeth, tra bydd y gweddill yn cael ei werthu ar y farchnad agored.