Back
Mae'n Dechrau Gyda Dynion: Diwrnod y Rhuban Gwyn 2024
25/11/24

Thema Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Merched eleni, a elwir yn fwy cyffredin yn Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, yw ‘
Mae’n Dechrau Gyda Dynion’.

 

Bob blwyddyn, mae 25 Tachwedd yn nodi’r diwrnod byd-eang i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch sy'n annog pobl, yn enwedig dynion a bechgyn, i weithredu a newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais.

 

Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi'i wreiddio mewn nodweddion gwrywaidd niweidiol ac mae thema eleni yn tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n cyfrannu at ofn trais i fenywod a merched yn eu bywydau bob dydd, a hynny gan ddechrau gyda dynion.

 

Mae Cyngor Caerdydd bellach yn ei drydydd tymor fel sefydliad achrededig a gydnabyddir gan White Ribbon UK, yr elusen flaenllaw sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais yn erbyn menywod a merched, am ei ymrwymiad i weithio tuag at newid diwylliant trawsnewidiol mewn diwylliant staff, systemau, gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid a chymunedau.

 

Mae’r Cyngor wedi cytuno hefyd i Gaerdydd fod yn ddinas sy’n adlewyrchu egwyddorion y Confensiwn ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen waith bwrpasol i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, amddiffyn hawliau menywod a dileu pob math o arferion gwahaniaethol yn erbyn menywod.

 

Unwaith eto eleni, mae calendr llawn o ddigwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd hyfforddi wedi'i drefnu drwy gydol mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr i nodi'r ymgyrch. Mae hyn yn cynnwys yr Wylnos Ganhwyllau flynyddol Dim Yn Fy Enw I ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos diwethaf a’r orymdaith y bore yma o Heol y Gadeirlan i Eglwys Gadeiriol Llandaf ar gyfer gwasanaeth Cynnau Cannwyll aml-ffydd.

 

Mae symbol nodedig y Rhuban Gwyn wedi ei daflunio hefyd ar dŵr Castell Caerdydd i gofio pawb y mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi effeithio arnynt ac i dynnu sylw at ein dull dinas gyfan o roi diwedd i drais a cham-drin.

 

Dywedodd Cennad y Rhuban Gwyn a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver:  “Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd - fel cyngor, dinas, cenedl i atal trais yn erbyn menywod a merched ond fel y mae thema'r ymgyrch Rhuban Gwyn eleni yn ei ddweud, 

mae'n dechrau gyda dynion, felly rydym yn gweithio i sicrhau bod hyd yn oed mwy o ddynion yn cael eu cefnogi i fod yn well cynghreiriaid i fenywod a merched.

 

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i herio a newid unrhyw ddiwylliant o rywiaeth a chasineb at fenywod drwy weithgareddau ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol a thrwy barhau i roi atebolrwydd am gam-drin ar y rhai sy'n achosi niwed.”