Back
Datgelu cyflawniadau a chynlluniau Caerdydd yn y dyfodol fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF


15/11/2024

Mae Caerdydd wedi cymryd camau breision gyda hyrwyddo hawliau plant a gwrando ar farn pobl ifanc ers dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf yn y DU, yn ôl adroddiad newydd.

Derbyniodd Cyngor Caerdydd y teitl mawreddog gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF UK) i'r ddinas y llynedd, gan gydnabod ymrwymiad yr awdurdod i flaenoriaethu hawliau plant, tra'n sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.

Mae'r prif lwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys: 

  1. Addysg ar Hawliau Plant: Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran addysgu oedolion a phlant am hawliau plant.  Mae mwy na 70% o staff y cyngor wedi derbyn hyfforddiant, ac mae bron pob ysgol gynradd wedi ymuno â rhaglen Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF.  Mae'r fenter hon yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gallu eirioli drostynt eu hunain.
  2. Cyfranogiad a Llais: Mae Caerdydd wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn weithredol mewn prosesau gwneud penderfyniadau.  Cyfrannwyd dros 3,000 awr o amser dinasyddiaeth weithredol gan blant a phobl ifanc, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn cyfarfodydd a phenderfyniadau pwysig i siapio'r ddinas.
  3. Gwella Mannau Cyhoeddus:  Mae'r ddinas wedi canolbwyntio ar wella parciau a mannau cyhoeddus i'w gwneud yn well i blant.  Mae plant a phobl ifanc wedi helpu i fapio cymunedau ar draws y ddinas, gan greu amgylcheddau mwy diogel a phleserus i blant a phobl ifanc.
  4. Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chynhwysiant: Mae Caerdydd wedi ymgymryd â phrosiectau amrywiol i gefnogi merched, plant o gefndiroedd amrywiol, a'r rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.  Mae ymdrechion i fynd i'r afael â gwaharddiadau ysgolion a sicrhau triniaeth deg i bob plentyn wedi cael blaenoriaeth.

Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys: 

  1. Ehangu Addysg ar Hawliau Plant: Bydd Caerdydd yn parhau i addysgu mwy o bobl am hawliau plant, gyda'r nod o gyrraedd cynulleidfa ehangach ac atgyfnerthu pwysigrwydd yr hawliau hyn.
  2. Gwella Mannau Cyhoeddus Mae'r ddinas yn bwriadu gwella parciau a mannau cyhoeddus ymhellach, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, yn hwyl ac wedi'u dylunio gyda phlant a phobl ifanc mewn golwg.
  3. Cyfranogiad Parhaus: Bydd Caerdydd yn cynnal ei hymrwymiad i wrando ar blant a phobl ifanc a chynlluniau'r ddinas i greu mannau cyhoeddus ymhellach sy'n diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc trwy ymgorffori eu syniadau yn y prosesau dylunio a gwneud penderfyniadau.
  4. Sicrhau Triniaeth Deg: Bydd y ddinas yn parhau i weithio ar brosiectau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gan fynd i'r afael â materion fel gwahaniaethu a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Mae taith Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn dyst i'w hymroddiad i greu amgylchedd meithringar a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.  Mae ymdrechion parhaus y ddinas a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i gynnal hawliau plant a gwneud Caerdydd yn lle gwell fyth i'r genhedlaeth iau dyfu'n hŷn."

Dywedodd Naomi Danquah, Cyfarwyddwr Rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant UNICEF DU: "Roedd cydnabyddiaeth Caerdydd fel Dinas gyntaf UNICEF sy'n Dda i Blant yn y DU yn adlewyrchu'r cynnydd sylweddol y mae'r ddinas wedi'i wneud tuag at hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.  Mae'r adroddiad yn awgrymu bod Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid lleol yn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiadau parhaus i gynnal hawliau pob plentyn a pherson ifanc ledled y ddinas."

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau, 21 Tachwedd i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnodAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 21ain Tachwedd, 2024, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

Mae Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant yn rhaglen gan Bwyllgor y DU UNICEF (UNICEF UK) sy'n gweithio gyda chynghorau i roi hawliau plant ar waith.

Nod y rhaglen yw creu dinasoedd a chymunedau yn y DU lle mae pob plentyn - p'un a ydyn nhw'n byw mewn gofal, yn defnyddio canolfan blant, neu'n ymweld â'u llyfrgell leol - yn cael lleisio barn ac elwa'n wirioneddol ar y penderfyniadau, y gwasanaethau a'r gofodau lleol sy'n llywio eu bywydau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch iunicef.org.uk/child-friendly-cities