Back
Y Diweddariad: 19 Tachwedd 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Dod â'r Goedwig Genedlaethol i chwe Ysgol Caerdydd trwy gydweithrediad Trees for Cities
  • Y diweddaraf am gynlluniau i warchod adeiladau treftadaeth allweddol yng Nghaerdydd
  • Cefnogaeth gyhoeddus i gynlluniau i warchod 11 parc yng Nghaerdydd yn barhaol
  • Adeiladu parc sglefrio Llanrhymni yn dechrau cyn bo hir

 

Dod â'r Goedwig Genedlaethol i chwe Ysgol Caerdydd trwy gydweithrediad Trees for Cities

Bydd chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn trawsnewid eu hierdydd chwarae yn amgylcheddau dysgu llawn natur fel rhan o'r rhaglen Ierdydd Chwarae Iach.

I'w gyflawni mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol Trees for Cities a'r Cyngor, bydd Ysgol y Wern, Ysgol Gynradd Greenway, Ysgol Glan Ceubal, Ysgol Gynradd Springwood, Ysgol Gynradd Pencaerau ac Ysgol Gynradd Trelái yn elwa o'r cynllun sy'n integreiddio Coedwig Genedlaethol Cymru yn dir ysgolion, gan alluogi plant i fwynhau mannau gwyrddach ac iachach lle gallant feithrin cysylltiad gydol oes â natur.

Ymhlith yr ychwanegiadau hyn, mae "Coetiroedd Bach" wedi'u plannu gan ddefnyddio dull Miyawaki, sy'n ddull Japaneaidd sy'n cyflymu twf coedwigoedd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol.

Wedi'i datblygu mewn cydweithrediad ag Earth Watch Europe, mae pob Coetir Bach yn cynnwys 600 o goed, gyda'r potensial i ddenu dros 500 o rywogaethau o fewn tair blynedd yn unig.

Darllenwch fwy yma

 

Y diweddaraf am gynlluniau i warchod adeiladau treftadaeth allweddol yng Nghaerdydd

Mae'r diweddariad ar gynlluniau i warchod adeiladau hanesyddol allweddol yng Nghaerdydd gan gynnwys Y Plasty ar Heol Richmond, Yr Hen Lyfrgell ar yr Ais, a Merchant Place/Adeiladau Cory ym Mae Caerdydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r adeiladau hyn yn helpu i ddiffinio hanes a chymeriad Caerdydd ac fel eu ceidwaid, mae'r Cyngor yn cymryd camau i'w gwarchod a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

"Yn dilyn ymyriad y Cyngor, mae'r gwaith o adnewyddu Merchant Place ac Adeiladau Cory wedi hen ddechrau a bydd yr adeiladau treftadaeth pwysig hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto'n fuan heb unrhyw gost i'r trethdalwr. Nawr mae'r Cyngor yn edrych i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'r Plasty rhestredig Gradd II hanesyddol, trwy ddechrau proses sydd â'r nod o sicrhau buddsoddiad cyfalaf ar y farchnad agored.

"Yn amodol ar gytundeb gan y Cabinet a phob parti arall, bydd y Cyngor hefyd yn manteisio ar y cyfle a gynigir gan ildiad cynnar Virgin Money o'u prydles ar yr uned ar lawr gwaelod yr Hen Lyfrgell, i helpu i gyflymu cynlluniau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i allu buddsoddi yn yr adeilad."

Yn ôl adroddiad, sydd i fod i gael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd mewn cyfarfod Ddydd Iau 21 Tachwedd, mae disgwyl i'r gwaith o drawsnewid Merchant Place ac Adeiladau Cory yn gyfleuster addysgol newydd ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd gael ei gwblhau yn haf 2026.

Darllenwch fwy yma

 

Cefnogaeth gyhoeddus i gynlluniau i warchod 11 parc yng Nghaerdydd yn barhaol

Gallai 11 o barciau yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ganfod cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd.

Canfu'r ymgynghoriad 8-wythnos fod 95% o'r ymatebwyr o blaid cynlluniau i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Meysydd Chwarae Cymru, elusen annibynnol sy'n gweithredu ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn argymell y dylai'r Cyngor nawr ddechrau'r gwaith angenrheidiol i orffen cyflwyno'r parciau canlynol fel Meysydd Chwarae Cymru:

 

  • Parc y Fynwent (Adamsdown)
  • Rhodfa Craiglee (Butetown)
  • Parc Trelái (Caerau)
  • Parc y Sanatoriwm (Treganna)
  • Parc Rhydypennau (Cyncoed)
  • Parc y Tyllgoed (Y Tyllgoed)
  • Parc Hailey (Ystum Taf)
  • Parc Waun Fach (Pentwyn)
  • Parc Westfield (Pentyrch a Sain Ffagan)
  • Heol Llanisien Fach (Rhiwbeina)
  • Parc Caerllion (Trowbridge)

 

Byddai Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn berchen ar y safleoedd ac yn gyfrifol am eu rheoli a'u cynnal.

Darllenwch fwy yma

 

Adeiladu parc sglefrio Llanrhymni yn dechrau cyn bo hir

Cyn bo hir, bydd gan sglefrwyr yng Nghaerdydd barc sglefrio newydd atyniadol i'w fwynhau.

Mae disgwyl i'r gwaith ar y parc sglefrio 1,000m2 drws nesaf i Ganolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni ddechrau cyn y Nadolig.

Wedi'i ddylunio gan ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol, mae'r parc sglefrio newydd yn cynnwys cyfres o rampiau,  cyrbau, grisiau a rheiliau yn ogystal â chwarter pibell a bydd yn addas ar gyfer pob oedran a gallu.

Wedi'i adeiladu o goncrit, bydd y parc sglefrio newydd yn well, mwy cynhwysol, haws ei gynnal a llai swnllyd na'r hen barc pren.

Darllenwch fwy yma