Daw hyn yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu cyfraniadau ariannol ar gyfer y prosiect - £50m gan Lywodraeth y DU ac arian cyfatebol Llywodraeth Cymru yn rhoi £50m arall ar gyfer y cynllun.
Mae Graham Group wedi’i benodi o dan Gontract Ymwneud Cynnar gan Gontractwr, a fydd yn caniatáu i'r Cyngor a TC weithio gyda nhw yn ystod camau cynnar y contract i reoli cost y dyluniad a sut y bydd y prosiect yn cael ei adeiladu.
Mae'r prosiect wedi'i rannu'n
ddau gam cyflawni, sef:
Cam
1a) Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r cam
hwn yn cael ei ariannu'n llawn a bydd angen ailddatblygu'r rhwydwaith priffyrdd
o amgylch Sgwâr Callaghan yn sylweddol, er mwyn i’r tram/trên allu cysylltu â
llinell reilffordd bresennol Bae Caerdydd, yn ogystal â phlatfform tram/trên
newydd yng Nghaerdydd Canolog.
Er
mwyn sicrhau y gall y tram gydgysylltu â llwybrau cerdded a beicio, bydd ardal
gyhoeddus newydd o flaen Sgwâr Callaghan, beicffordd ar wahân newydd i gysylltu
Caerdydd Canolog â Sgwâr Callaghan sy'n cysylltu â'r rhwydwaith strategol
ehangach, a newidiadau i'r trefniadau mynediad ar gyfer traffig drwodd
cyffredinol trwy Rodfa Bute a Heol Eglwys Fair Isaf.
Cam 1b) Gorsaf Bae
Caerdydd i Stryd Pen y Lanfa. Nid yw'r cam hwn yn cael ei ariannu ar hyn o bryd
ond bydd yn cynnwys ailfodelu'r rhwydwaith priffyrdd o amgylch y Rhodres a
Stryd Pen y Lanfa i ganiatáu adeiladu estyniad trac tram newydd. Bydd y rhan
hon o'r cynllun hefyd yn cynnwys gwella cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a
beicwyr, gyda chyfleusterau croesi newydd a beicffordd ar wahân newydd i
gysylltu Roald Dahl Plass yn well gyda datblygiad yr arena dan do newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran
Cyngor Caerdydd: “Mae'n newyddion gwych ein bod wedi cael cadarnhad o'r cyllid
gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gall y gwaith
manwl ddechrau bellach, gyda'r dyluniad manwl i gael ei gwblhau erbyn Hydref
2025 a disgwylir i'r gwaith ar lawr gwlad ddechrau ddiwedd y flwyddyn nesaf.
“Yn ystod y contract, bydd y
Cyngor a TC yn gweithio'n agos gyda Graham Group i sicrhau'r gwerth
cymdeithasol gorau posibl i'r contract, drwy greu swyddi, prentisiaethau a
chyfleoedd hyfforddi i bobl leol. O dan y rhaglen waith bresennol, gallai'r
gwaith adeiladu fod wedi'i gwblhau erbyn dechrau 2028, gyda thramiau'n rhedeg
ar y trac yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
“Mae Cledrau Caerdydd yn
gynllun uchelgeisiol i ddarparu system drafnidiaeth tramiau newydd Caerdydd a
fydd, yn y pen draw, yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i
ddwyrain y ddinas gan gysylltu â gorsaf arfaethedig Parcffordd. Yn dilyn rhagor
o gyfleoedd cyllid, rydym yn bwriadu darparu gwasanaeth tramiau traws-ddinas
sy'n fforddiadwy ac yn ddibynadwy i'r cyhoedd ei ddefnyddio, ac i gysylltu rhai
o gymunedau tlotaf Caerdydd â'r rhwydwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf.
“I ddechrau'r broses hon,
rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd
hyn o'r diwedd yn sicrhau bod Butetown wedi'i chysylltu'n iawn â chanol y
ddinas, trwy Caerdydd Canolog, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr
gael mynediad i'r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.”