Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Mae gan Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd fys ar y pwls!
Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn ehangu eu cynnig iechyd a lles, gyda lansiad cynllun monitorau pwysedd gwaed newydd.
Yn yr un modd ag y gall deiliaid cardiau llyfrgell fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill gan gyfleusterau ar draws y ddinas, gall aelodau'r cyhoedd fanteisio ar y cynllun benthyciadau newydd a fydd yn caniatáu iddynt gadw golwg ar eu pwysedd gwaed.
Y cynllun yw'r fenter iechyd a lles ddiweddaraf gan y gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n cefnogi'r nod o gyflawni gweithgarwch i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled y ddinas.
Mae gan un o bob tri oedolyn yn y DU bwysedd gwaed uchel ond nid yw llawer yn sylweddoli hynny. Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel dros gyfnod o amser arwain at nifer o broblemau iechyd gan gynnwys strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau, dementia fasgwlaidd a diabetes.
Gall bod yn fwy ymwybodol o'u pwysedd gwaed alluogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw fel bod yn egnïol, cadw at bwysau iach, bwyta'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu neu gymryd meddyginiaeth, er mwyn osgoi'r canlyniadau negyddol hyn.
Ymchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Caerdydd mewn ymgais i annog mwy o bobl i faethu
Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru, mae'r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn un sy'n gynyddol enbyd.
Mae angen mwy o ofalwyr maeth yn ein cymuned ar Maethu Cymru Caerdydd i sicrhau bod plant lleol yn gallu aros yn agos at eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u hysgolion, gan roi'r sefydlogrwydd a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Trwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth, gallwn helpu mwy o blant i ffynnu mewn amgylchedd cyfarwydd.
Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
Ymunodd Caerdydd Maethu Cymru â'r ymgyrch, ‘gall pawb gynnig rhywbeth' i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy'n atal pobl rhag gwneud ymholiad.
Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu'n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
Ysgol Gynradd Windsor Clive yn cael ei gwobrwyo am ragoriaeth mewn iechyd a lles plant
Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái wedi cael ei chydnabod fel Ysgol Ragoriaeth Thrive am roi iechyd a lles plant a staff wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud.
Y wobr yw'r lefel uchaf o gyrhaeddiad yn y maes ac mae'n dathlu ymrwymiad ysgolion sy'n cael effaith gadarnhaol ar blant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach.
Mae'r ysgol wedi cael ei chanmol am sefydlu tair ystafell 'hive' sy'n rhoi lle tawel a diogel i blant lle gallant fynd i ddysgu, cwblhau eu gwaith neu gysylltu ag Ymarferydd Thrive yn ystod 'cyfnod ymlacio' - pan mae plentyn yn ei chael hi'n anodd rheoleiddio ei emosiynau ac angen siarad ag oedolyn sydd ar gael yn emosiynol.
Mae'r ysgol hefyd yn gweithredu Clwb Amser Cinio Thrive (TLC) lle gall plant fynd yn ôl yr angen - mae'n darparu ystod o weithgareddau amlsynhwyraidd a meddwlgarwch.
Gall rhieni a theuluoedd gael mynediad at gyrsiau Thrive a ddarperir gan Ymarferwyr Family Thrive yr ysgol, gan gynnig cymorth a thechnegau i feithrin dealltwriaeth o ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol eu plentyn.
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 17 Tachwedd yng Nghaerdydd
Bydd Awstralia yn herio Cymru ar ddydd Sul 17 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 4.10pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau drwy'r dydd o hanner dydd tan 8.10pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n agor am 2.10pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.