Back
Mae gan Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd fys ar y pwls!

14/11/24

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn ehangu eu cynnig iechyd a lles, gyda lansiad cynllun monitorau pwysedd gwaed newydd.

Yn yr un modd ag y gall deiliaid cardiau llyfrgell fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill gan gyfleusterau ar draws y ddinas, gall aelodau'r cyhoedd fanteisio ar y cynllun benthyciadau newydd a fydd yn caniatáu iddynt gadw golwg ar eu pwysedd gwaed.

Y cynllun yw'r fenter iechyd a lles ddiweddaraf gan y gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n cefnogi'r nod o gyflawni gweithgarwch i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled y ddinas.

Mae gan un o bob tri oedolyn yn y DU bwysedd gwaed uchel ond nid yw llawer yn sylweddoli hynny.  Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel dros gyfnod o amser arwain at nifer o broblemau iechyd gan gynnwys strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau, dementia fasgwlaidd a diabetes.

Gall bod yn fwy ymwybodol o'u pwysedd gwaed alluogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw fel bod yn egnïol, cadw at bwysau iach, bwyta'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu neu gymryd meddyginiaeth, er mwyn osgoi'r canlyniadau negyddol hyn.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan gynghorir pobl i fonitro eu pwysedd gwaed, gall cost prynu dyfais fod yn rhwystr.

Nawr, bydd monitorau a ddilysir gan Gymdeithas Gorbwysedd Prydain ac Iwerddon at ddefnydd cartref ar gael i'w benthyca am ddim am gyfnodau o dair wythnos i alluogi preswylwyr i fonitro eu hunain gartref. Bydd cwsmeriaid yn cael llyfryn sy'n cynnwys gwybodaeth am pam mae’n bwysig monitro pwysedd gwaed, achosion pwysedd gwaed uchel, sut i ddefnyddio'r ddyfais a chofnodi canlyniadau a beth i'w wneud os ydyn nhw'n poeni am y darlleniadau maen nhw'n eu cymryd.

Gall aelodau o'r gymuned a hoffai fenthyca dyfais ond nad oes ganddynt gerdyn llyfrgell ar hyn o bryd gofrestru am un am ddim yn eu hyb neu eu llyfrgell leol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Rydym yn falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i'n cwsmeriaid. Gall llawer o bobl deimlo'n gynhyrfus wrth i'w pwysedd gwaed gael ei gymryd mewn lleoliad gofal iechyd, a all effeithio ar gywirdeb eu darlleniad.  Trwy gael benthyg dyfais o'u llyfrgell neu eu hyb leol, gall cwsmeriaid wneud y monitro yng nghysur eu cartrefi eu hunain a chymryd camau i wella eu hiechyd eu hunain."