13.11.24
Mae'r diweddariad ar gynlluniau i warchod adeiladau hanesyddol allweddol yng Nghaerdydd gan gynnwys Y Plasty ar Heol Richmond, Yr Hen Lyfrgell ar yr Ais, a Merchant Place/Adeiladau Cory ym Mae Caerdydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd.
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r adeiladau hyn yn helpu i ddiffinio hanes a chymeriad Caerdydd ac fel eu ceidwaid, mae'r Cyngor yn cymryd camau i'w gwarchod a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Yn dilyn ymyriad y Cyngor, mae'r gwaith o adnewyddu Merchant Place ac Adeiladau Cory wedi hen ddechrau a bydd yr adeiladau treftadaeth pwysig hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto'n fuan heb unrhyw gost i'r trethdalwr. Nawr mae'r Cyngor yn edrych i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'r Plasty rhestredig Gradd II hanesyddol, trwy ddechrau proses sydd â'r nod o sicrhau buddsoddiad cyfalaf ar y farchnad agored.
"Yn amodol ar gytundeb gan y Cabinet a phob parti arall, bydd y Cyngor hefyd yn manteisio ar y cyfle a gynigir gan ildiad cynnar Virgin Money o'u prydles ar yr uned ar lawr gwaelod yr Hen Lyfrgell, i helpu i gyflymu cynlluniau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i allu buddsoddi yn yr adeilad."
Yn ôl adroddiad, sydd i fod i gael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd mewn cyfarfod Ddydd Iau 21 Tachwedd, mae disgwyl i'r gwaith o drawsnewid Merchant Place ac Adeiladau Cory yn gyfleuster addysgol newydd ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd gael ei gwblhau yn haf 2026.
Mae'r adroddiad yn nodi nad yw'r Plasty Rhestredig Gradd II "yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd gyda'r llawr cyntaf yn cael ei ddefnyddio'n anaml a'r ail lawr wedi ei gau oherwydd ei gyflwr gwael" ac nad oes ei angen ar y Cyngor.
Er bod gwaith atgyweirio hanfodol wedi'i wneud, mae'r eiddo yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol i ddatrys materion amrywiol yn ymwneud ag adeiladwaith a strwythur yr adeilad. Yn ôl yr adroddiad, byddai lefel y buddsoddiad sydd ei angen "ond yn cael ei gyfiawnhau pe bai gan y Cyngor ddefnydd gweithredol hirdymor ar gyfer yr eiddo."
Mae gwaith yn mynd rhagddo i adnabod opsiynau llety amgen ar gyfer y nifer cyfyngedig o swyddogaethau dinesig sy'n cael eu cyflawni o'r adeilad ac, yn amodol ar gytundeb y Cabinet, disgwylir i'r eiddo fod ar gael i'r farchnad tua diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Yna bydd canlyniadau'r broses hon yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet am benderfyniad ar y ffordd orau ymlaen.
Dechreuodd y cyngor ar brydles hir gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer yr Hen Lyfrgell ym mis Mehefin 2023. Law yn llaw a gwaith adfer ar yr adeilad hanesyddol ar yr Ais, mae eu cynlluniau'n cynnwys cyflwyno mannau perfformio, arddangos ac ymarfer newydd.
Roedd y cytundeb gwreiddiol yn cynnwys gofyniad i CBCDC reoli'r uned llawr gwaelod a oedd wedi ei gosod i Virgin Money tan fis Mehefin 2034. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan bob parti, bydd y brydles yn cael ei diwygio a bydd CBCDC yn cymryd cyfrifoldeb am y gofod ychwanegol yma yn yr adeilad hefyd.
Ni fyddai'r newid hwn yn effeithio ar Amgueddfa Caerdydd a bydd yn aros yn yr Hen Lyfrgell am y tro, nes y ceir cartref tymor hir mwy addas a chynaliadwy.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod Ddydd Iau, 21 Tachwedd i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad. Bydd gwe ddarllediad o'r cyfarfod ar y diwrnod ar gael yma.
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 19 Tachwedd. Bydd y cyfarfod ar gael i'w wylio ar-lein.