13.11.24
Gallai 11 o barciau yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ganfod cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd.
Canfu'r ymgynghoriad 8-wythnos fod 95% o'r ymatebwyr o blaid cynlluniau i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Meysydd Chwarae Cymru, elusen annibynnol sy'n gweithredu ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.
Parc Trelái, un o 11 parc a allai elwa o'r amddiffyniad. Cydnabyddiaeth: Cyngor Caerdydd
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn argymell y dylai'r Cyngor nawr ddechrau'r gwaith angenrheidiol i orffen cyflwyno'r parciau canlynol fel Meysydd Chwarae Cymru:
Byddai Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn berchen ar y safleoedd ac yn gyfrifol am eu rheoli a'u cynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Os cânt eu cymeradwyo gan y Cabinet, bydd y cytundebau hyn gyda Meysydd Chwarae Cymru yn mwy na dyblu nifer y parciau yng Nghaerdydd sydd wedi'u gwarchod rhag datblygiad ac yn golygu bod 254,000 o drigolion - 69% o'r boblogaeth - yn byw o fewn 10 munud ar droed i fan gwyrdd gwarchodedig."
Mae deg safle sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod yn barhaol gan Meysydd Chwarae Cymru. Y rhain yw: Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Cae Rec y Rhath a Chae Rec Tredelerch.
Mae Cae Rec Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg hefyd wedi'u gwarchod yn y modd hwn. Mae'r safleoedd hyn yn cael eu rheoli gan gynghorau cymuned lleol.
Mae atebion i lawer o gwestiynau cyffredin am Meysydd Chwarae Cymru, a'r amddiffyniad y mae ymrwymo i weithred gyflwyno'n ei roi, ar gael yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/33495.html
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod Ddydd Iau, 21 Tachwedd i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y dydd yma.
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 19 Tachwedd. Bydd y cyfarfod ar gael i'w wylio ar-lein.