Mae angen mwy o ofalwyr maeth yn ein cymuned ar Maethu Cymru Caerdydd i sicrhau bod plant lleol yn gallu aros yn agos at eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u hysgolion, gan roi'r sefydlogrwydd a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Trwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth, gallwn helpu mwy o blant i ffynnu mewn amgylchedd cyfarwydd.
Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
Ymunodd Caerdydd Maethu Cymru â’r ymgyrch, ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i rannu profiadau realistig y gymuned faethu ac ymateb i rwystrau cyffredin sy’n atal pobl rhag gwneud ymholiad.
Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gymorth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, er mwyn darparu’r canlynol i ofalwyr posib:
1) Gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
2)
Hyder a sicrwydd
bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n
galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
3)
Cymhelliant i gychwyn
y broses o ddod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.
“Rwy'n credu mai'r gamdybiaeth fwyaf i weithiwr cymdeithasol yw y bydd yn beirniadu darpar ofalwyr am eu ffordd o fyw neu eu hanes,” meddai Debbie, gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol Caerdydd.
Mae’r ymgyrch ddiweddaraf ‘‘gall pawb gynnig rhywbeth’, yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Cafwyd 309 o ymatebwyr ac mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
• 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg yn dweud eu bod wedi ymuno â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd
•
18% o ofalwyr maeth yn dweud fod canfyddiadau negyddol o
weithwyr cymdeithasol yn bodoli oherwydd sylw yn y Newyddion
•
29% o ofalwyr maeth yn dweud, cyn cyfarfod â gweithiwr
cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn ‘bobl â llwyth achosion trwm a
llawer o waith papur.’
•
27% o weithwyr cymdeithasol a holwyd yn credu bod darpar
ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol
Mae Julie yn weithiwr cymdeithasol goruchwyliol yng Nghaerdydd ac mae wedi treulio 10 mlynedd yn y swydd. Bu'n myfyrio ar yr hyn sy'n gwneud gofalwr maeth gwych, a sut mae Maethu Cymru Caerdydd yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.
Dywedodd: “Fel gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol gall fod yn rôl unigryw sy'n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i deulu sy’n maethu.”
Nid yw gofal maeth bob amser yn ateb parhaol i'r plentyn/plant ac os yw'n bosibl, y canlyniad gorau fyddai i blant ddychwelyd i'w teulu biolegol. Mae Julie yn angerddol am hyn: “Mae bob amser yn brofiad cadarnhaol yn gweld teuluoedd sy’n gallu aros gyda'i gilydd ar ôl gweithio'n galed i wneud newidiadau sy'n hyrwyddo anghenion eu plant. I blant, mae'n bwysig iawn gwybod nad ydyn nhw'n bell i ffwrdd o'u teulu ac yn cael aros mewn ysgol maen nhw'n gyffyrddus ac wedi setlo ynddi.”
Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r cymorth a dderbynnir, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:
“Mae gen i'r gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol gorau posibl, mae’n gefnogol, yn wybodus ac yno bob amser i wrando arna i a helpu pryd bynnag y bo angen.” Sarah, Gofalwr Maeth, Maethu Cymru Caerdydd
“Rydyn ni'n gweld ein gweithiwr cymdeithasol yn rheolaidd ac mae'n gefn mawr i ni.” Paul, Gofalwr Maeth, Maethu Cymru Caerdydd
"Mae awdurdod lleol Caerdydd wedi bod yn hollol wych, ac alla i ddim canu clodydd fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol ddigon." Beth, Gofalwr Maeth, Maethu Cymru Caerdydd
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd