Back
Dod â'r Goedwig Genedlaethol i chwe Ysgol Caerdydd trwy gydweithrediad Trees for Cities

 

12/11/2024

Bydd chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn trawsnewid eu hierdydd chwarae yn amgylcheddau dysgu llawn natur fel rhan o'r rhaglen Ierdydd Chwarae Iach.

I'w gyflawni mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol Trees for Cities a'r Cyngor, bydd Ysgol y Wern, Ysgol Gynradd Greenway, Ysgol Glan Ceubal, Ysgol Gynradd Springwood, Ysgol Gynradd Pencaerau ac Ysgol Gynradd Trelái yn elwa o'r cynllun sy'n integreiddio Coedwig Genedlaethol Cymru yn dir ysgolion, gan alluogi plant i fwynhau mannau gwyrddach ac iachach lle gallant feithrin cysylltiad gydol oes â natur.

Ymhlith yr ychwanegiadau hyn, mae "Coetiroedd Bach" wedi'u plannu gan ddefnyddio dull Miyawaki, sy'n ddull Japaneaidd sy'n cyflymu twf coedwigoedd a bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol.

Wedi'i datblygu mewn cydweithrediad ag Earth Watch Europe, mae pob Coetir Bach yn cynnwys 600 o goed, gyda'r potensial i ddenu dros 500 o rywogaethau o fewn tair blynedd yn unig.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Mae Trees for Cities wedi gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion Caerdydd ers 2020, gan gyflwyno plannu coed ychwanegol, ardaloedd cysgodol a pharthau tyfu bwyd i ierdydd chwarae ysgolion, gan wella ansawdd aer a darparu dysgu ymarferol am arddio organig.

"Mae'r bartneriaeth yn cefnogi ein hymrwymiad i hyrwyddo'r defnydd o fannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae ac mae wedi dwyn buddion amhrisiadwy i iechyd a lles plant a phobl ifanc, gan alluogi tyfu bwyd ar draws yr ysgol gyfan, ac annog deietau iachach ac ymddygiadau bwyta da ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r fenter hefyd yn bwydo i mewn i'n hymateb ehangach Caerdydd Un Blaned i'r newid yn yr hinsawdd sydd wedi cynnwys cyflwyno fferm solar newydd, adeiladu llwybrau beicio newydd a chartrefi cyngor carbon isel, a phlannu mwy nag 80,000 o goed newydd ledled y ddinas mewn tair blynedd yn unig fel rhan o'n prosiect coedwig drefol, Coed Caerdydd.

"Bydd plannu'r Coetiroedd Bach newydd hyn mewn chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn helpu i gefnogi ein nod lleol o gynyddu brigdwf coed yng Nghaerdydd i 25% a pharhau i ddatblygu'r cysylltiadau rhwng ein prosiect Coed Caerdydd a Choedwig Genedlaethol Cymru."

Dywedodd Kate Sheldon, Prif Swyddog Gweithredol Trees for Cities: "Rydym wrth ein boddau o dderbyn y cymorth hwn gan Grant Coetiroedd Bach. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i ehangu ein hymdrechion yng Nghaerdydd, gan drawsnewid ierdydd chwarae ysgolion yn fannau gwyrddach ac iachach. Mae pob plentyn yn haeddu mynediad i goed, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda mwy o ysgolion i feithrin cysylltiadau agosach â natur."

Wedi'i ariannu gan grant gwerth £240,000 gan gynllun Coetiroedd Bach Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn hefyd yn cynnwys gweithdai sydd wedi'u dylunio i ddyfnhau dealltwriaeth disgyblion o rolau coed mewn perthynas â gwydnwch hinsawdd.

Mae disgyblion a staff wedi ymateb yn gadarnhaol i'r rhaglen Ierdydd Chwarae Iach a thrwy adborth mae llawer wedi dweud eu bod yn teimlo'n hapusach ac yn fwy diogel yn y mannau gwyrdd newydd, ac mae staff ysgolion yn dweud bod yr ardaloedd hyn wedi dod â theimlad o dawelwch a chyffro. I un disgybl, mae'r Ierdydd Chwarae Iach wedi dod yn noddfa. Dywedodd, "Bob tro dwi'n teimlo'n rhwystredig, dwi'n gallu mynd i'r Iard Chwarae Llawn Bwyd."

Wrth i'r Ierdydd Chwarae Iach newydd gael eu cwblhau, bydd Trees for Cities yn parhau i gefnogi'r ysgolion hyn trwy weithdai a hyfforddiant, gan eu grymuso i feithrin a monitro eu hardaloedd coetir trwy gydol 2025. Bydd y newid gwyrdd parhaol hwn yn dod â buddion uniongyrchol ac yn y dyfodol i genedlaethau iau Caerdydd, gan feithrin cysylltiad gydol oes â natur a stiwardiaeth amgylcheddol.