Back
Ysgol Gynradd Windsor Clive yn cael ei gwobrwyo am ragoriaeth mewn iechyd a lles plant

12/11/2024

Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái wedi cael ei chydnabod fel Ysgol Ragoriaeth Thrive am roi iechyd a lles plant a staff wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud.

Y wobr yw'r lefel uchaf o gyrhaeddiad yn y maes ac mae'n dathlu ymrwymiad ysgolion sy'n cael effaith gadarnhaol ar blant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach.

Mae'r ysgol wedi cael ei chanmol am sefydlu tair ystafell 'hive' sy'n rhoi lle tawel a diogel i blant lle gallant fynd i ddysgu, cwblhau eu gwaith neu gysylltu ag Ymarferydd Thrive yn ystod 'cyfnod ymlacio' - pan mae plentyn yn ei chael hi'n anodd rheoleiddio ei emosiynau ac angen siarad ag oedolyn sydd ar gael yn emosiynol.

Mae'r ysgol hefyd yn gweithredu Clwb Amser Cinio Thrive (TLC) lle gall plant fynd yn ôl yr angen - mae'n darparu ystod o weithgareddau amlsynhwyraidd a meddwlgarwch.

Gall rhieni a theuluoedd gael mynediad at gyrsiau Thrive a ddarperir gan Ymarferwyr Family Thrive yr ysgol, gan gynnig cymorth a thechnegau i feithrin dealltwriaeth o 

ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol eu plentyn. 

Dywedodd y Pennaeth, Kim Fisher: "Mae'r dull Thrive wedi'i wreiddio ar draws ein hysgol ac yn ein helpu i nodi a yw ein plant wedi profi unrhyw 'fylchau' yn eu datblygiad emosiynol, gan roi'r offer sydd eu hangen arnom i'w cefnogi orau fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. 

"Credwn fod perthnasoedd cadarnhaol mewn ysgolion yn ganolog i les myfyrwyr ac athrawon ac yn sail i amgylchedd dysgu effeithiol. Rydym am i bawb deimlo a phrofi ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cariad a pharch, a phan fo plant yn cael eu gwerthfawrogi a'u meithrin fel unigolion, maen nhw'n teimlo ymdeimlad o bwrpas ac yn deall eu lle mewn cymuned.

"Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn Ysgol Ragoriaeth Thrive ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi a gwella lles cymdeithasol ac emosiynol ein disgyblion."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Windsor Clive.  Mae'n amlwg bod ethos yr ysgol gyfan yn blaenoriaethu iechyd a lles plant a phobl ifanc, gan eu helpu i ddod yn wydn a medrus ac i allu addasu wrth wynebu heriau.

"Mae'r cyflawniad hwn yn cefnogi ein statws Caerdydd sy'n Dda i Blant, gan roi hawliau plant wrth galon ein dinas."

I ddysgu mwy am y dull Thrive ewch iwww.thriveapproach.com