Back
Prif gontractwr dros dro wedi'i benodi i ailgychwyn prosiect adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed
 12/11/24

 Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi prif gontractwr dros dro i adeiladu Campws Cymunedol y Tyllgoed, gan ddiogelu'r prosiect gwerth £108m ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan wneud taliadau o dros £7m i'r gadwyn gyflenwi bresennol.

 

Mae'r cwmni adeiladu Borley Engineering Services Ltd (BESL) o Gymru wedi'i ddewis fel y prif gontractwr dros dro brys i sicrhau y gall gwaith ar y safle ailgychwyn cyn gynted â phosibl.  Daw'r penderfyniad hwn wrth i ymarfer tendro ddechrau i ddewis prif gontractwr newydd i weld y prosiect yn dod i'w derfyn.

 

Fel rhan o'r trefniadau gyda gweinyddwr ISG, bydd y Cyngor yn penodi BESL ar sail frys a bydd yn arbed swyddi ac yn diogelu'r gwaith a gwblhawyd hyd yma drwy wneud taliadau o fwy na £7m i'r isgontractwyr a'r cyflenwyr presennol ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau.  Credir bod Campws Cymunedol y Tyllgoed yn un o'r prosiectau mwyaf a gafodd ISG ar y safle ledled y DU ac nid yw'r trefniant hwn wedi'i efelychu mewn mannau eraill.  Mae'r awdurdod lleol wedi ymgysylltu'n weithredol â'r isgontractwyr drwy gydol y broses, y mae llawer ohonynt wedi'u lleoli o fewn 20 milltir i safle Campws Cymunedol y Tyllgoed.

 

Wedi’i ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma’r prosiect mwyaf o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu hyd yn hyn.

 

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar un safle yn y Tyllgoed.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau cynnydd prosiect Campws Cymunedol y Tyllgoed ac wedi sefydlu trefniant sy'n achub y gadwyn gyflenwi.  Drwy ddewis BESL i fod yn brif gyflenwr dros dro, byddwn ni’n dod â gweithwyr yn ôl i’r safle, byddwn ni’n eu talu am eu gwaith, yn lleihau oedi, yn cadw costau i lawr, yn diogelu swyddi, ac yn diogelu'r gadwyn gyflenwi tra hefyd yn diogelu’r buddsoddiad cyhoeddus sydd eisoes wedi ei wneud yn un o brosiectau addysg mwyaf y DU.

 

"Mae'r prosiect hwn yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion yn y tair ysgol, ac i'r gymuned ehangach, a fydd yn defnyddio'r cyfleusterau newydd ar y campws, ac rydym wedi ymrwymo i'w weld yn cael ei gwblhau."

 

Llinell amser ar gyfer Prosiect Campws y Tyllgoed:

1.             Cyflawni gwaith drwy BESL (Tachwedd 2024 - Ebrill 2025)

o   Gwaith yn dechrau ar y safle ym mis Tachwedd yn dilyn ailgydio.  

o   Gwneud archebion am is-gontractwyr a darparwyr eraill. 

o   Maint y prosiect i gynyddu i uchafswm o 300 o weithwyr ar y safle.

 

2.             Proses Dendro ar gyfer y Gwaith sy'n Weddill (Tachwedd 2024 - Ebrill 2025)

o   Dechrau’r ymarfer tendro ar gyfer y gwaith sy'n weddill.

o   Gwerthuso ceisiadau a dewis prif gontractwr newydd.  

 

3.             Ailddechrau’r  Gwaith sy'n Weddill (Ebrill 2025)

o   Prif gontractwr newydd yn ymgymryd â’r prosiect. 

o   Prosiect yn parhau yn unol â'r rhaglen.

 

4.             Cwblhau Cerrig Milltir Allweddol (2025 - 2027) 

o   Meddiannaeth lawn yn gynnar yn 2027, gan gynnwys arolygiadau terfynol a rhoi’r allweddi.

 

Nod y llinell amser hon yw sicrhau bod y prosiect yn datblygu'n esmwyth ac yn cael ei gwblhau gyda chyn lleied o darfu â phosib, yn diogelu swyddi, ac yn cynnal ansawdd y cyfleusterau addysgol.