11.11.24
Cynhelir Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol 2024 rhwng 11 Tachwedd a 15 Tachwedd ac mae'n gyfnod i gydnabod y rôl hanfodol y mae prydau ysgol maethlon yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd plant, llwyddiant academaidd a lles cyffredinol.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymuno â dathliadau'r genedl drwy arddangos ei ymrwymiad i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at brydau iach a chytbwys trwy ei gydymffurfiaeth ragorol â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, y mae'r cyngor wedi cyflawni safon aur yn eu herbyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd yn falch o dynnu sylw at y penderfyniad i ehangu rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn cyrraedd dros 21,100 o ddisgyblion cynradd ledled y ddinas gyda mwy na 3m o brydau bwyd yn cael eu gweini ers dechrau'r cynllun. Mae'r rhaglen hon yn rhoi rhyddhad ariannol sylweddol i deuluoedd, gan sicrhau bod plant yn bwyta'n dda yn ystod y diwrnod ysgol ac yn helpu i liniaru effaith y cynnydd mewn costau byw a sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn rhwystro addysg plant.
"Mae gan bob disgybl cynradd o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 fynediad at brydau ysgol am ddim erbyn hyn ac rydym yn falch o weld yr effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen hon eisoes yn ei chael ar filoedd o deuluoedd ledled Caerdydd."
Mae Cyngor Caerdydd yn annog teuluoedd i fewngofnodi i'w cyfrifon ParentPay i rag-archebu prydau bwyd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli allan. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.parentpay.com
Yn ogystal â'r Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae Cyngor Caerdydd yn atgoffa teuluoedd â phlant oedran uwchradd sy'n derbyn budd-daliadau i barhau i gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim. "Mae'n hanfodol bod y rhai sy'n gymwys yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw," ychwanegodd y llefarydd. "Rydym yn annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu gymorth ychwanegol i estyn allan fel y gallant gael y cymorth angenrheidiol drwy gydol y flwyddyn ysgol."
I gael gwybod mwy am Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol, ewch i Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol - Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol
Gwybodaeth bwysig am Brydau Ysgol Am Ddim yn seiliedig ar fudd-daliadau
Yn ogystal â Phrydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae'nrhaidi deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o unrhyw oedran barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim. Mae'r manylion ar gael yma; Prydau Ysgol Am Ddim
Gall dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd hefyd dderbyn cymorth ariannol ychwanegol gan Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (y Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol) Grant Hanfodion Ysgol sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd ysgrifennu, a dyfeisiau. Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol Am Ddim.
Gall cofrestru am gymorth sydd ar gael hefyd olygu y gall ysgol plentyn gael cyllid ychwanegol y gellir ei wario ar gefnogi dysgu.
Mae'r budd-daliadau cymwys yn cynnwys:
Os ydych chi'n deulu sydd â phlantnad ydyntyn cael Prydau Ysgol Am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Cyngor Caerdydd roi cymorth i chi.Am fwy o wybodaeth, ewch iDarganfod mwy am Brydau Ysgol Am Ddim
Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu alw heibio i un o'n Hybiau.