Back
Cynlluniau Caerdydd ar gyfer cyfeiriad Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol

8/11/2024

Ers mis Ebrill 2014, mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio ochr yn ochr â'i bedwar awdurdod lleol partner cyfagos i weithredu Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol cyfredol Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a'r broses o gyflawni trefniadau gwella ysgolion, a elwir yr 'adolygiad Haen Ganol'.

Prif nod yr adolygiad oedd 'gwella deilliannau addysgol drwy ymestyn ein dysgwyr a lleihau'r bwlch tegwch.' Daeth yr Adolygiad i'r casgliad y dylid datblygu Gwasanaethau Gwella Ysgolion fel bod:

  • Arweinwyr ysgolion yn cael cyfle i arwain ar faterion gwella ysgolion drwy ganolbwyntio'n fwy ar gydweithio a gwaith partneriaeth lleol rhwng arweinwyr ysgolion a'u hawdurdod lleol.
  • Partneriaethau'n datblygu rhwng mwy nag un awdurdod lleol i gefnogi cydweithredu ehangach.
  • Arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol cliriach i ysgolion, gan gynnwys symleiddio'r mecanweithiau cyllido cenedlaethol gyda chymaint o adnoddau â phosibl yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion neu i gefnogi grwpiau o ysgolion i gydweithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddicanllaw drafft i lywio'r broses bontio i drefniadau Gwella Ysgolion newydd ac yn seiliedig ar yr adborth gan benaethiaid, ac archwiliad ehangach o waith rhwng ysgolion, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio Cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfeiriad arfaethedig y Gwasanaethau Gwella Ysgolion yn y dyfodol.

 

Egwyddorion allweddol Caerdydd yw:

  • Dylai Gwella Ysgolion gael ei danategu gan gyfrifoldeb cyfunol a phob dull gweithredu yn y dyfodol gael ei ystyried yn ymdrech ar y cyd
  • Dylai awdurdodau lleol unigol gyflawni swyddogaethau gwella ysgolion a sefydlu 'Partneriaethau Dysgu Cydweithredol' gyda phenaethiaid.  
  • Bydd rôl y Partneriaid Gwella yn cael ei diwygio i adlewyrchu rôl/cyfrifoldebau Partneriaethau Dysgu Cydweithredol ac i ddarparu cydnabyddiaeth fwy eglur o rôl awdurdodau lleol a'u cyfrifoldebau statudol. 
  • Bydd Partneriaid Gwella sy'n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol ac yn atebol ac yn adrodd i'w Cyfarwyddwr Addysg perthnasol.

Partneriaid gwella sy'n gweithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion arbennig i weithio o fewn ôl troed isranbarthol (hynny yw, yr ardaloedd Bwrdd Iechyd), gan gydnabod natur arbenigol yr adnodd hwn a'r manteision i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion arbennig ffurfio partneriaethau ar draws ffiniau awdurdodau lleol i allu tynnu ar brofiad dyfnach ac ehangach.

  • Bydd yr holl Bartneriaid Gwella yn rhan o rwydwaith rhanbarthol i ddarparu datblygiad proffesiynol ac amddiffyn yn erbyn 'plwyfoldeb' gan hefyd alluogi brocera cefnogaeth ysgol-i-ysgol ar draws ALlau lle gallai hyn fod yn fanteisiol.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:  "Mae canlyniad yr adolygiad wedi helpu i nodi meysydd sy'n gweithio'n dda ac yn tynnu sylw at lwyddiant ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd, hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a dysgu proffesiynol.

"Mae egwyddorion allweddol Caerdydd yn parhau i roi ffocws ar Bartneriaethau Dysgu Cydweithredol gan ganiatáu i ysgolion rannu arfer da a chyfleoedd datblygiad proffesiynol, cynnig cefnogaeth i Benaethiaid ac Arweinwyr a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion. 

"Wrth rymuso ysgolion i gymryd mwy o gyfrifoldeb cyfunol am eu gwelliant eu hunain, bydd cynlluniau ar gyfer Caerdydd yn parhau i ystyried tirwedd addysgol unigryw'r ddinas, gan gynnwys amrywiaeth ddiwylliannol, tegwch a chynhwysiant hiliol a'r gwahaniaethau rhwng cymunedau.

Ychwanegodd llefarydd:  "Byddai cynlluniau gwella ysgolion yng Nghaerdydd yn edrych i fanteisio i'r eithaf ar lwyddiannau Caerdydd hyd yn hyn, fel cydnabyddiaeth Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU a'r ymdrechion sylweddol i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau dilys sydd eu hangen ar ysgolion, athrawon a phlant i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.

"Rydym wedi ymrwymo i ysbrydoli disgyblion i ddatblygu'r dyheadau a'r uchelgeisiau sydd eu hangen i feithrin y sgiliau ar gyfer swyddi yfory a thrwy fentrau fel Addewid Caerdydd, ein nod yw grymuso plant a phobl ifanc i elwa ymhellach ar flaenoriaethau strategol allweddol y ddinas a chyfrannu atynt, fel yr amlinellir yn Strategaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' Caerdydd."

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod Ddydd Iau, 21 Tachwedd 2024 i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod ymaAgenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 12 Tachwedd o 4.30pm. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w gwylio ymaAgenda for Cabinet on Thursday, 21st November, 2024, 2.00 pm : Cardiff Council