Back
Y Diweddariad: 08 Tachwedd 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru
  • Tai, Iechyd, Cymuned: Pentref lles cyntaf Caerdydd yn cael ei gymeradwyo
  • Llinell ffôn bwrpasol newydd i helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl
  • Mae Castell Caerdydd i'w weld yn nrama'r BBC Wolf Hall:  The Mirror and the Light

 

Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru

Cynhelir seremoni Genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru, ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yng Nghaerdydd ddydd Sul 10 Tachwedd 2024.

Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol a'r Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.

Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Cenedlaethol Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn arwain y canu yn ystod y gwasanaeth.

Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'.

Darllenwch fwy yma

 

Tai, Iechyd, Cymuned: Pentref lles cyntaf Caerdydd yn cael ei gymeradwyo

Mae pentref lles cyntaf Caerdydd, datblygiad 27 erw sy'n dwyn ynghyd iechyd a thai i ddarparu cyfleusterau a chartrefi newydd i bobl leol, ar ei ffordd i orllewin y ddinas.

Mae'r datblygiad arfaethedig, fydd yn cael ei gyflawni trwy gydweithrediad rhwng Cyngor Caerdydd a'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential fel rhan o raglen Cartrefi Caerdydd ac yn creu tua 235 o gartrefi ar hen safle Coleg Cymunedol Llanfihangel yn Nhrelái, wedi cael cymeradwyaeth gynllunio.

Mae'r datblygiad newydd yn ceisio hyrwyddo byw'n annibynnol gan ganolbwyntio ar iechyd a lles. Mae Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn cydweithio i gynnig amrywiaeth o fannau i'r gymuned leol er mwyn gallu darparu gwasanaethau yn well yn yr ardal leol.

Gan ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd i bobl hŷn gyda 107 o fflatiau Byw yn y Gymuned i'w rhentu gan y Cyngor, mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys cymysgedd o 128 o gartrefi ar gyfer grwpiau oedran eraill a fydd ar werth ar y farchnad agored. 

Bydd y cynllun yn fywiog ac yn nodweddiadol, gyda chymdogaeth gwbl hygyrch gyda'r nod o annog rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo ffordd iach o fyw.  Bydd canolfan feddygol newydd, hyb cymunedol newydd gydag ystafelloedd aml-bwrpas, caffi a man gweithio ystwyth yn greiddiol i'r cynllun mewn sgwâr canolog sydd â chysylltiad da â'r tai ar y safle.

Bydd mannau awyr agored o ansawdd uchel ar draws y lleoliad, gan gynnwys ardal chwaraeon, gerddi cymunedol, rhandiroedd a bydd yr ardaloedd coediog presennol yn cael eu cadw a'u gwella. Mae seilwaith gwyrdd a draenio trefol cynaliadwy yn rhan annatod o ddyluniad y cynllun.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio ddoe (7 Tachwedd) ar gyfer yr agweddau hyn ar y pentref lles, a chymeradwywyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer naw fflat byw â chymorth i oedolion a chanolfan seibiant i blant.

Darllenwch fwy yma

 

Llinell ffôn bwrpasol newydd i helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl!

Oeddech chi'n gwybod bod tua 10% o drigolion Caerdydd yn nodi eu bod yn ofalwyr di-dâl? Mae hynny'n agos at 33,000 o bobl yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind. Fodd bynnag, mae 'na lawer o bobl nad ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn ofalwyr, gan gamgymryd eu rôl ofalu fel 'rhoi help llaw' i berthynas neu ffrind. Mae cydnabod eich bod yn ofalwr yn bwysig oherwydd mae'n bosib y bydd cefnogaeth ar gael i chi.

Rydyn ni'n gwybod y gall gofalu am rywun fod yn flinderus yn gorfforol ac yn emosiynol, gan gael effaith negyddol ar les rhywun. Gyda 36% o ofalwyr yn dweud eu bod yn aml neu bob amser yn unig, rydyn ni am sicrhau bod pob gofalwr di-dâl ledled Caerdydd yn cael y cymorth hanfodol sydd ei angen arno. Dyna pam mae Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Caerdydd yn hapus i gyhoeddi llinell ffôn bwrpasol newydd i roi cymorth a chyngor i ofalwyr di-dâl i'w helpu i ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain.

I ofalwyr di-dâl, gall defnyddio gwasanaethau cymorth a gwybodaeth fod yn frawychus, felly mae'r llinell ffôn uniongyrchol yn gwneud pethau'n syml. Gall y tîm helpu gyda:

  • rhoi cyngor a chymorth am ddim,
  • cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar Ofalwr Di-dâl a'i anghenion,
  • cael gafael ar wasanaethau cymorth lleol,
  • deall eu hawliau, ac
  • Asesiadau Anghenion Gofalwyr.

Felly, os ydych chi'n ofalwr di-dâl neu'n nabod un, rhannwch y wybodaeth hon a ffoniwch ni ar 02920 234234 neu e-bostiwch:  CyswlltGwasBywAnn@caerdydd.gov.uk 

Os yw'r gofalwr di-dâl dan 18 oed neu os ydych chi'n gofalu am rywun dan 18 oed, ewch i wefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yma.

Darllenwch fwy yma

 

Mae Castell Caerdydd i'w weld yn nrama'r BBC Wolf Hall:  The Mirror and the Light

Mae Drama boblogaidd gan y BBC 'Wolf Hall:  The Mirror and the Light' yn cynnwys cast llawn sêr yn cynnwys Mark Rylance fel Thomas Cromwell, Damian Lewis fel Brenin Harri VIII, ac efallai y bydd gwylwyr â llygad barcud yn gweld Castell hanesyddol Caerdydd hefyd.

Mae'n dilyn pedair blynedd olaf bywyd Thomas Cromwell wrth iddo gwblhau ei daith o sefydlu ei hun fel dyn parchus i fod yn ofnus a dylanwadol ym myd gwleidyddiaeth, mae pennod olaf y gyfres ddrama arobryn hon wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd a threuliwyd peth o'r amser hwnnw yn ffilmio y tu mewn ac o amgylch y Castell Gorthwr Normanaidd.

Darllenwch fwy yma