8/11/2024
Mae
pentref lles cyntaf Caerdydd, datblygiad 27 erw sy'n dwyn ynghyd iechyd a thai
i ddarparu cyfleusterau a chartrefi newydd i bobl leol, ar ei ffordd i orllewin
y ddinas.
Mae'r
datblygiad arfaethedig, fydd yn cael ei gyflawni trwy gydweithrediad rhwng
Cyngor Caerdydd a'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential fel rhan o raglen
Cartrefi Caerdydd ac yn creu tua 235 o gartrefi ar hen safle Coleg Cymunedol
Llanfihangel yn Nhrelái, wedi cael cymeradwyaeth gynllunio heddiw.
Mae'r
datblygiad newydd yn ceisio hyrwyddo byw'n annibynnol gan ganolbwyntio ar
iechyd a lles. Mae Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
wedi bod yn cydweithio i gynnig amrywiaeth o fannau i'r gymuned leol er mwyn
gallu darparu gwasanaethau yn well yn yr ardal leol.
Gan
ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd i bobl hŷn gyda 107 o fflatiau Byw yn
y Gymuned i'w rhentu gan y Cyngor, mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys cymysgedd
o 128 o gartrefi ar gyfer grwpiau oedran eraill a fydd ar werth ar y farchnad
agored.
Bydd
y cynllun yn fywiog ac yn nodweddiadol, gyda chymdogaeth gwbl hygyrch gyda'r
nod o annog rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo ffordd iach o fyw. Bydd canolfan feddygol newydd, hyb cymunedol
newydd gydag ystafelloedd aml-bwrpas, caffi a man gweithio ystwyth yn greiddiol
i’r cynllun mewn sgwâr canolog sydd â chysylltiad da â'r tai ar y safle.
Bydd
mannau awyr agored o ansawdd uchel ar draws y lleoliad, gan gynnwys ardal
chwaraeon, gerddi cymunedol, rhandiroedd a bydd yr ardaloedd coediog presennol
yn cael eu cadw a’u gwella. Mae seilwaith gwyrdd a draenio trefol cynaliadwy yn
rhan annatod o ddyluniad y cynllun.
Rhoddwyd
caniatâd cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio ddoe (7 Tachwedd) ar gyfer yr
agweddau hyn ar y pentref lles, a chymeradwywyd caniatâd cynllunio amlinellol
ar gyfer naw fflat byw â chymorth i oedolion a chanolfan seibiant i blant.
Dwedodd
llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Pentref Lles Llanfihangel yn un o'r
cynlluniau mwyaf cyffrous yn ein rhaglen datblygu tai, gan ddarparu tai
fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr i bobl hŷn yn ogystal â chartrefi newydd
i’w gwerthu yn yr ardal.
"Bydd
y cartrefi newydd hyn yn darparu mynediad gwell at wasanaethau iechyd, mannau
agored a chyfleusterau cymunedol i breswylwyr, gan ategu amwynderau presennol
gerllaw a chefnogi pobl hŷn i gadw'n actif a chysylltiedig yn eu cymuned.
"Rydym
yn gwneud cynnydd da iawn yn erbyn ein huchelgais i ddarparu 4,000 o gartrefi
newydd i'r ddinas, i helpu i ddelio â phwysau tai digynsail ac mae cynllun
Llanfihangel yn rhan bwysig o'r cynllun cyffredinol hwnnw."
Dywedodd
Stuart Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Rhanbarthol | Wates Residential: “Yn Wates,
rydyn ni'n ail-ddychmygu lleoedd i bobl ffynnu. Rydym yn falch iawn o'n gwaith
gyda Chyngor Caerdydd trwy raglen Byw Caerdydd, gan greu cymunedau ffyniannus
ar draws y ddinas.
“Mae’r
pentref lles newydd hwn – y cyntaf yn y ddinas – yn garreg filltir arall yn ein
partneriaeth, ac edrychwn ymlaen at greu cymuned fywiog arall sy’n cefnogi lles
yr holl drigolion.”