Back
Y Diweddariad: 05 Tachwedd 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffiji ar 10 Tachwedd yng Nghaerdydd
  • Cymuned Gabalfa yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â graffiti ar furlun newydd ei baentio
  • Mae Cerbydau Hacni yng Nghaerdydd bellach yn derbyn taliadau â cherdyn a thaliadau digyswllt

 

Cyngor teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffiji ar 10 Tachwedd yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Ffiji ddydd Sul 10 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 1.40pm, bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 9.30am tan 5.40pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn yn sgil y gêm rygbi hon, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau'n agor am 11.40am, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Cymuned Gabalfa yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â graffiti ar furlun newydd ei baentio

Mae murlun cymunedol a gafodd ei fandaleiddio ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei gwblhau wedi cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol.

Roedd prosiect cydweithredol, yn cynnwys timau, ysgolion a phartneriaid allanol Cyngor Caerdydd, i greu murluniau newydd lliwgar wedi trawsnewid tanffordd Gabalfa yn Rhodfa'r Gorllewin cyn i'r waliau gael eu maeddu â phaent melyn gan fandaliaid.

Fodd bynnag, roedd y gymuned yn gyflym i weithredu a daeth at ei gilydd i olchi'r graffiti cyn iddo gael cyfle i sychu.

Roedd y murlun yn ben llanw wythnosau o waith gan grwpiau amrywiol ac ysgolion lleol a rhoddodd olwg newydd fywiog i'r twnnel tanddaearol, rhywbeth yr oedd y gymuned leol yn falch ohono. Maen nhw bellach wedi adfer y gwaith celf drwy weithred sy'n dathlu pŵer ymgysylltiad y gymuned a'r ymdeimlad o falchder yn yr ardal.

Mae Prosiect Cyfnewidfa Gabalfa Unify, sy'n cynnwys Tîm Cwricwlwm Caerdydd, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Tîm Gofalu Tai Cyngor Caerdydd, wedi'i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gymdeithasol. Wedi'i arwain yn greadigol gan Unify Creative, daeth ag ysgolion lleol, partneriaid dinas ac aelodau o'r gymuned ynghyd i ail-ddychmygu ac ailgynllunio'r danffordd, gan ei throi'n ofod diogel a bywiog sy'n ennyn balchder cymunedol.

Cymerodd chwe ysgol leol, gan gynnwys UCD Bryn y Deryn, Ysgol Gyfun Glantaf, Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Glan Ceubal, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Ysgol Arbennig Meadowbank, a Chanolfan Adnoddau Arbenigol Glantaf, ran yn y prosiect. Gweithiodd myfyrwyr o'r ysgolion hyn, ochr yn ochr â phobl ifanc o Glwb Ieuenctid Gabalfa, yn agos gyda Unify Creative i archwilio themâu hunaniaeth a chymuned, gan greu gwaith celf sy'n adlewyrchu eu safbwyntiau unigryw ar Gabalfa a'i le yn eu bywydau.

Darllenwch fwy yma

 

Mae Cerbydau Hacni yng Nghaerdydd bellach yn derbyn taliadau â cherdyn a thaliadau digyswllt

Bellach mae'n ofynnol i bob Cerbyd Hacni (tacsis du a gwyn) yng Nghaerdydd dderbyn taliadau â charden a thaliadau digyswllt gan y cyhoedd.

Daeth y trefniadau newydd i rym ar 1 Medi, yn dilyn cytundeb yng nghyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Nawr ein bod wedi rhoi digon o amser i'r fasnach gydymffurfio â'r rheolau newydd, mae'n bwysig cyfleu'r neges i'r cyhoedd y gallant nawr dalu am eu taith tacsi mewn Cerbyd Hacni â cherdyn neu drwy daliad digyffwrdd.

"Rhaid i gerbydau hacni gystadlu am gwsmeriaid â cherbydau hurio preifat, ac roedd y ffaith mai dim ond arian parod y gallai pobl ei dalu o'r blaen yn rhwystr i'w masnach. Gyda mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar apiau ar eu ffonau clyfar a thaliadau cardiau wrth iddynt fynd ati yn eu bywyd bob dydd, dylai'r opsiwn i dalu â charden ac yn ddigyswllt wneud Cerbydau Hacni yn fwy cystadleuol a'u helpu gyda'u masnach.

"Bydd y newid hwn o fudd i'r cyhoedd hefyd, gan na fydd yn rhaid i bobl nad ydynt yn cario arian parod wyro eu taith mwyach i fynd at beiriant codi arian parod i dalu am eu siwrne, gan arbed amser ac arian.

"Mae'n bwysig nodi bod y newid hwn ond yn berthnasol i Gerbydau Hacni ac nid cerbydau hurio preifat, gan fod yn rhaid archebu pob taith drwy weithredwyr tacsis preifat trwy ap neu drwy ffonio'r cwmni."