Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn yn sgil y gêm rygbi
hon, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy
ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us
yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.
Gallwch chi
weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n
agor am 11.40am, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio
eu taith a mynd i mewn yn gynnar.
Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn
gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm
cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 9.30am tan 5.40pm
·
Yn ogystal,
bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r
chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr
orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd
Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd ar drenau i mewn/allan o
Gaerdydd ddydd Sul 10 Tachwedd ond mae llai o wasanaethau ar ddydd Sul a
disgwylir i drenau fod yn brysur iawn, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer
eich taith.
Bydd ciwiau ar
ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif linell yn y Sgwâr Canolog a
chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y
Frenhines Caerdydd yn cau am 1500 heblaw am fynediad hygyrch ac i deithwyr sy'n
dymuno teithio i Fae Caerdydd.
Bydd gwiriadau
refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd Canolog
felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi prynu eich tocyn trên cyn mynd i mewn i’r
system giwio. Yn ddiweddar, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ehangu'r parthau
Tocynnau Cosb i gynnwys holl linellau De Cymru a Cheltenham a’r Gororau, am fwy
o wybodaeth ewch i Tocynnau Cosb |
Trafnidiaeth Cymru
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y cyfleusterau parcio a theithio
ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y
ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle parcio a theithio yn agor ychydig cyn
8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas
am 6pm gyda'r safle yn cau’n fuan wedi hynny.
Y gost yw £15.
Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Bysus)
Gan fod Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yn cael
ei gynnal yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, bydd parcio digwyddiadau ar gyfer y gêm rygbi yn
cael ei gyfyngu tan tua hanner dydd.
Nes i Wasanaeth Coffa
Cenedlaethol Cymru a’r Gorymdeithio Heibio ddod i ben, dim ond ar ben
uchaf Rhodfa'r Brenin Edward Vll y caniateir parcio digwyddiadau a'r rhan o
Heol y Coleg rhwng Rhodfa'r Brenin Edward Vll a'r Amgueddfa Genedlaethol.
Ar ôl 12 hanner dydd,
bydd modd defnyddio gweddill y Ganolfan Ddinesig i barcio ar gyfer y gêm rygbi.
Cyrraedd yno:
Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y
ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn
agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno:
Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 ar gyfer ceir a £30 i fysus - mae
taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw
ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a'r
beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu
defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt
fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r trefniadau cau
ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â
phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio
Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac
NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau
am 9.30am ac yn ailagor am 5.40pm.